Llwyddiant Pêl Droed Casi Gregson

Erthygl gan Mr Michael Davies ar ran Cymdeithas Pêl Droed Ceredigion

gan Lowri Gregson

Disgybl blwyddyn 10 yn Ysgol Bro Pedr yw Casi Gregson ac mae tymor pêl-droed 2022-23 wedi profi`n un llwyddiannus iawn i`r ferch dalentog o Lanbedr-Pont Steffan. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae nid yn unig wedi cynrychioli timoedd Ysgolion Ceredigion ond wedi teithio i Florida, Israel, Portiwgal, a`r Iseldireodd gyda thîm merched Cymru Dan 17 er i Casi fod ond yn 15 oed.

Datblygodd ei diddordeb pêl-droed yn Ysgol Gynradd Carreg Hirfaen Cwmann ac yna diolch i ddylanwad ei mam Maxine sefydlwyd tîm cymysg er mwyn cystadlu yng nghyngrair Ceredigion Dan 12. O ganlyniad i`w pherfformiadau disglair daeth y cyfle i fynychu treialon gorllewin Cymru gyda Casi yn dod i sylw’r dewiswyr cenedlaethol am y tro cyntaf. Nid yw`n syndod ei bod yn disgleirio ym mhêl-droed gyda`i thad Lyndon yn gyn chwaraewr proffesiynol gyda CPD Abertawe.

Mae gêm y marched yng Nghymru wedi datblygu`n gyflym iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn dilyn llwyddiant y tîm cenedlaethol o dan arweiniad Gemma Grainger ac yn rhan o weledigaeth y Gymdeithas sefydlwyd Academi Ymddiriedolaeth Pêl-droed Merched De Cymru ym Mhontypridd.

Bydd Casi a`i rhieni yn gwneud y daith o Lanbed i Bontypridd tair gwaith yr wythnos ar Ddydd Mercher a Gwener ar gyfer ymarfer ac ar Ddydd Sul ar gyfer gemau academi lle mae`r tîm yn cystadlu yn erbyn academiau bechgyn dwy flynedd yn ifancach. Mae`r hyfforddwyr yn rhai profiadol ac yn cynnwys Izzy Taylor, cyn-hyfforddwr Tîm Menywod Met Caerdydd a Loran Dykes MBE cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru.

Dywedodd Taylor am Casi “mae ganddi cyffyrddiad cyntaf da, presenoldeb a phenderfyniad ar y cae ac mae`n eithriadol o gyflym gyda llygad am gôl”. Nid yw hyn yn syndod gan fod Casi hefyd yn athletwraig penigamp ac yn bencampwraig Cymru yn y 60m a`r 200m.

Er gwaetha`r teithio hir wythnosol i`r academi mae`r sesiynau yn gwbl broffesiynol gyda`r hyfforddwyr yn darparu adborth i`r merched wrth ddadnsoddi gemau blaenorol, sesiwn pwysau yn y gampfa ac hyfforddiant sgiliau a thactegau.

Ym mis Ebrill 2022, cafodd Casi ei dewis i chwarae dros Gymru am y tro cyntaf yng Nghystadleuaeth Bob Docherty yn Newcastle. Bu`n herio timoedd A a B Lloegr a`r Alban gyda Casi yn sgorio ei gôl rhyngwladol gyntaf mewn buddugoliaeth cofiadawy yn erbyn Lloegr A.

Dros haf 2022 teithiodd Casi i Florida gyda thîm Cymru dan 15 er mwyn cymryd rhan yng Nghwpan CONCACAF gan herio Costa Rica, Puerto Rico, Mexico a Haiti. Yn dilyn ei pherfformiadau yn America, cafodd ei dewis gan yr hyfforddwraig Nia Davies ar gyfer Cymru Dan 17 ar gyfer gemau Rownd Gyntaf Cystadleuaethau Rhagbrofol Ewrop yn Israel ym mis Hydref 2022 gyda`r tîm yn curo Montenegro 4-0 ac Israel 4-0 . Er mwyn paratoi ar gyfer y cyfres nesaf o gemau ym mis Mawrth 2023, teithiodd y garfan i Bortiwgal  ar gyfer camp paratoi gan guro Gweriniaeth Tsiec 2-1 (Casi yn sgorio`r gôl fuddugol) a Serbia 3-2 (Casi`n sgorio`r gôl agoriadol) a cholli 0-3 yn erbyn Portiwgal.

Taith i`r Iseldioroedd oedd nesaf i Casi ym Mawrth eleni ar gyfer Ail Rownd Cystadlaethau Rhagbrofol Ewrop, gyda Chymru yn wynebu rhai o gewri gêm y merched sef Sweden, Y Ffindir a`r Iseldiroedd. Colli oedd hanes y merched yn y dair gêm ond roedd y profiadau o chwarae yn erbyn rhai o wledydd cryfa`r byd yn werthfawr tu hwnt i`r merched.

Gyda`r llenni`n cau ar dymor cofiadwy i Casi, beth mae`n gobeithio cyflawni yn y flwyddyn nesaf?  Ei blaenoriaeth yw gweithio tuag at set o ganlyniadau da TGAU ond o ran y pêl-droed gobaith Casi yw datblygu ei gyrfa rhyngwladol gyda Chymru Dan 17, denu sylw clybiau proffesiynol y WSL yn Lloegr gan obeithio am gytundeb llawn amser yn y dyfodol.

Ar ran pawb sy`n gysylltierdig â Chymdeithas Pêl-droed Ysgolion Ceredigion hoffwn longyfarch Casi ar ei llwyddiannau niferus eleni a dymuno pob lwc iddi i`r dyfodol. Dyma chi fodel rôl rhagorol ar gyfer bechgyn a merched sydd am gyrraedd y brig yn eu camp.

Casi Gregson yn cynrychioli Cymru a dilyn ôl traed ei thad

Cyfweliad fideo â’r bêl-droedwraig sydd ar fin cynrychioli Cymru am yr eildro.