gan
Nia Wyn Davies
Yn dilyn canlyniadau‘r penwythnos, mae’r llwyddiant i bobl ardal Llambed yn parhau yn niwrnodau 3 a 4 yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Llŷn ac Eifionydd. Gyda’r haul yn gwenu yno dros y dyddiau diwethaf hefyd. Llongyfarchiadau mawr i’r canlynol ar eu llwyddiant:
Dydd Llun:
- Deuawd Cerdd Dant o dan 21 oed – Ela Mablen Griffiths-Jones, Cwrtnewydd ac Olivia Davies, Aberaeron – 2il
- Y Rhuban Glas Ieuenctid: Gwobr Goffa Gwyneth Morus Jones: Llefaru Unigol 16 ac o dan 21 oed – Sara Elan Jones, Cwmann 1af.
- Dawns greadigol / gyfoes i grŵp dros 4 mewn nifer – Ysgol Ddawns Sally Saunders, Llambed 2il
- Cystadleuaeth gyfeilio – Alwena Mair Owen, Llanllwni 3ydd
Dydd Mawrth:
- Dawns Greadigol / Gyfoes Unigol – Amy Morgan, Llambed 1af
- Unawd telyn – Alwena Mair Owen, Llanllwni 1af
Llongyfarchiadau i Miss Meleri Morgan, athrawes yn Ysgol Bro Pedr ar ennill cystadleuaeth Llefaru Unigol o’r Ysgrythur 16 oed a throsodd ddydd Sul.