Cyhoeddodd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant y byddai Llyfrgell Campws Llanbed ar gau dros dro heddiw oherwydd bod y to yn gollwng yn annisgwyl, a arweinwyd at rywfaint o ddifrod.
“Eich diogelwch chi yw ein prif flaenoriaeth, ac rydym yn gweithio’n ddiwyd i asesu’r sefyllfa a mynd i’r afael â hi.”
Yn ôl myfyriwr a welwyd ar y campws, mae rhan o’r to wedi dymchwel ac o weld y sgaffaldiau yn amgylchynu’r llyfrgell gellir tybio bod gwaith atgyweirio’r to yn digwydd beth bynnag.
Lleolir y Brif Lyfrgell a Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen yn ardal dde-orllewinol y campws. Mae’r fynedfa gyferbyn ag Adeilad Caergaint. Mae Desg Wasanaeth TG a Chanolfan Ymchwil Alister Hardy i Brofiadau Crefyddol hefyd wedi’u lleoli yn yr adeilad, ond does dim gwybodaeth wedi dod i law hyd yn hyn os oes unrhyw ddifrod wedi bod i unrhyw gasgliad gwerthfawr sydd yno.
Yn ystod y prynhawn, daeth cyhoeddiad arall gan hysbysu defnyddwyr y bydd y llyfrgell yn parhau ar gau yfory, dydd Mercher 9fed Awst 2023, wrth iddyn nhw asesu’r sefyllfa ymhellach.
“Gallwn eich sicrhau ein bod wedi ymrwymo i ailagor y llyfrgell cyn gynted ag y mae’n ddiogel i wneud hynny, a diolch i chi am ddeall ac am eich amynedd. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r sefyllfa ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.”