Mannau gwefru cerbydau trydan newydd yn Llanbed

Y gwaith o osod mannau gwefru cerbydau trydan wedi dechrau ar y Cwmins a’r Rookery

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
208F30BF-E2C3-4203-9D5A

Mae mannau gwefru cerbydau trydan yn cael eu gosod yn Llanbed ac ar draws y sir i’w defnyddio gan drigolion a’r rhai hynny sy’n ymweld â Cheredigion.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ffurfio partneriaeth gyda chwmni Silverstone Green Energy fel ei Weithredwr Mannau Gwefru ac wedi dechrau gosod mannau gwefru cerbydau trydan mewn meysydd parcio cyhoeddus Talu ac Arddangos oddi ar y stryd yn Ngheredigion.

Yn Llanbed bydd mannau gwefru ym meysydd parcio’r Cwmins a’r Rookery gyda mannau gwefru ‘chwim’ yn y Cwmins hefyd.

Dywed y Cynghorydd Ann Bowen Morgan,

“Rwy’n falch iawn y bydd pwyntiau gwefru hir ddisgwyliedig ar y Cwmins a’r Rookery yn Llambed. Mae’n hanfodol ein bod yn darparu ar gyfer ein gyrrwyr ceir trydan.  Cyfle da i siopa yn y dref!”

Rhagwelir twf sylweddol yn y galw am fannau gwefru cyhoeddus a phreifat ar gyfer Cerbydau Trydan yn ystod y deng mlynedd nesaf wrth i nifer y cerbydau trydan a werthir gynyddu. Mae’r Cyngor yn gwneud ei ran ond pwysleisir bod yn rhaid i ystod o sefydliadau cyhoeddus, preifat a chymunedol chwarae eu rhan wrth ddiwallu’r cynnydd hwn yn y galw oherwydd bod diffyg mannau gwefru yn rhwystr sylweddol i bobl rhag defnyddio cerbydau trydan.

Mae’r mannau gwefru cerbydau trydan wedi’u lleoli mewn meysydd parcio canolog er mwyn i ddefnyddwyr fedru ymweld â busnesau ac atyniadau lleol wrth wefru eu ceir. Yn ogystal, mae’r mannau gwefru cerbydau trydan ar gyfer pobl sydd heb le oddi ar y stryd i wefru eu ceir dros nos. Y lleoliadau eraill yn y sir yw:

  • Swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, SA46 0PA
  • Maes Parcio Ffordd y Gaer, Aberaeron, SA46 0HZ
  • Swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Aberystwyth, SY23 3UE
  • Maes Parcio rhan isaf Coedlan y Parc / Boulevard St Brieuc, Aberystwyth, SY23 1PD
  • Maes Parcio Sgwâr Maes Glas, Aberteifi, SA43 1LH
  • Canolfan Hamdden, Ffordd y Gogledd, Aberteifi, SA43 1HG
  • Maes Parcio Llandysul, Llandysul, SA44 4QU
  • Maes Parcio Heol yr Eglwys, Ceinewydd, SA45 9PB
  • Maes Parcio Stryd y Cware / Paragon, Ceinewydd, SA45 9NR
  • Maes Parcio Iard y Talbot, Tregaron, SY25 6NF

Mae’r rhan fwyaf o’r mannau gwefru a osodir gan Gyngor Sir Ceredigion yn rhai ‘cyflym’ sy’n defnyddio cebl gwefru Math 2 ac yn gwefru mewn tair i bedair awr, yn dibynnu ar fath a nifer y cerbydau sydd wedi’u plygio i mewn. Mae mannau gwefru ‘chwim’ hefyd yn cael eu gosod mewn rhai meysydd parcio gan gynnwys meysydd parcio cyhoeddus y Cwmins yn Llambed a Sgwâr Cae Glas, Aberteifi. Mae gwybodaeth ynglŷn â sut i ddefnyddio’r mannau gwefru ar gael ar wefan Rhwydwaith Gwefru Dragon, drwy ap Gwefru Dragon, neu wrth y mannau gwefru eu hunain.

Mae’r Cynghorydd Keith Henson, yr Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon, wedi croesawu’r mannau gwefru cyhoeddus a gyflwynir ar gyfer cerbydau trydan, gan ddweud:

“Mae hyn yn gam da ymlaen i helpu i leihau ein hallyriadau carbon, a sicrhau bod ein sir yn parhau i ddatblygu i gefnogi ein busnesau, ein trigolion ac apelio at ymwelwyr. Wrth gefnogi targedau Carbon Sero Net corfforaethol y Cyngor sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth a theithio, rwy’n falch iawn ein bod wedi llwyddo i wneud cais pellach am gyllid Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i’n galluogi i sefydlu mannau ychwanegol ledled y sir.”

Cofiwch fod rhaid i unrhyw un sy’n parcio mewn maes parcio cyhoeddus ac sy’n defnyddio un o’r cilfannau parcio dynodedig hefyd dalu’r ffi a nodir ar gyfer parcio yn y maes parcio hwnnw yn ystod yr oriau y mae’r ffioedd hynny yn berthnasol.