gan
Ifan Meredith
Heddiw (Dydd Sul y 5ed o Fawrth) bydd Cadi-Lois Davies o Frynteg, ger Llanybydder yn camu i’r cae i chwarae mewn gêm hanesyddol yn erbyn Lloegr. Hon fydd y gêm gapio gyntaf i dîm menywod dan 18.
Mi fydd y gêm yn cael ei chwarae ar y caeau wnaeth William Webb Ellis chwarae arnynt 200 o flynyddoedd yn ôl
“Mae’r gêm yn gyfle gwych i’r merched fydd yn gwynebu Lloegr mewn gêm rhyngwladol am y tro cyntaf”
-Catrina Nicholas-McLaughlin, Prif Hyfforddwr tîm dan 18 menywod Cymru.
Mae’r tîm yn edrych ymlaen at wynebu Yr Alban ymhen pythefnos mewn gêm hyfforddi wrth baratoi ar gyfer twrnament y chwe gwlad ym mis Ebrill.