Mae chwaraewyr Tîm Rygbi Llanbed yn chwarae gêm dyngedfennol heddiw yn eu brwydr i gael dyrchafiad.
Wedi iddynt ennill oddi cartref yn erbyn Sanclêr yr wythnos ddiwethaf, daw Tîm Sanclêr i Gaeau Ffordd y Gogledd, Llanbed heddiw lle bydd y chwarae yr un mor ffyrnig.
Cyhoeddodd Lee Wells o’r Nags Head y bydd y dafarn ar gau tan ar ôl y gêm. Dywedodd Lee,
“Mae’n bwysig bod y gymuned gyfan yn dod at ei gilydd i gefnogi’r bois heddiw, felly fyddwn ni ddim yn agor y Nags tan ar ôl pedwar o’r gloch.”
Ychwanegodd Lee,
“Er taw bachan pêl-droed ydw i, mae fy merch wedi dechrau chwarae rygbi gyda un o dimoedd y plant yn y clwb erbyn hyn. Bu’r bois rygbi yn gefnogol iawn i’r Nags Head drwy gyfnod anodd y Covid, felly teimlaf yn gryf y dylwn ddangos ein cefnogaeth heddiw”
Bydd y gic gyntaf am 2.30 o’r gloch prynhawn ma. Mae’n ddiwrnod braf, felly ewch i weld y gêm fawr yng Nghlwb Rygbi Llanbed a bloeddio dros y tîm lleol.