NEWYDD DORRI : Gohirio cais cynllunio yng Nghwmann

Mae penderfyniad ar ddatblygiad o 20 tŷ wedi ei ohirio yn dilyn gwrthwynebiad gan drigolion lleol.

gan Ifan Meredith

Mewn cyfarfod o Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Gâr, mae penderfyniad wedi ei wneud i ohirio’r penderfyniad ar gais cynllunio i adeiladu tai ar dir hen Ysgol Coedmor tan ymweliad â’r safle.

“nid ar draul preifatrwydd pobl eraill”

Cafodd Sian Roberts Jones wahoddiad i siarad yn y cyfarfod fore Iau lle wnaeth ddatgan ei gwrthwynebiad i’r cynlluniau:

“Mae nifer o resymau dros wrthwynebu’r cais ar sail yr iaith Gymraeg, diffyg llefydd yn yr ysgol, diffyg cyfleusterau yn y pentref, dim un siop, dim un dafarn, yr angen i fynd mewn car i bobman ond yn bennaf oherwydd gorddatblygiad y safle a’r ffaith y bydd y tai presennol yn colli preifatrwydd.”

Er oedd disgwyl i’r cais gael ei gymeradwyo yn y cyfarfod, mae trigolion yn falch o’r penderfyniad yma ac wrth adael y cyfarfod heddiw medd Sian Roberts Jones:

“Roeddwn i o dan deimlad mawr yn ystod y cyfarfod heddiw.  Mae wedi bod yn frwydr hir hyd yma ac roeddwn i’n poeni’n ddirfawr y byddent yn pasio’r cais heb unrhyw ystyriaeth i’n pryderon ni fel cymuned. Ond, mae’r frwydr yn parhau a diolch i dduw, roedd y bleidlais o’n plaid ni ac mae’r pwyllgor wedi cytuno i wneud ymweliad â’r safle.  Dwi mor hapus fod nifer o gynghorwyr wedi bodloni gwrando arnaf heddiw. Felly, ymlaen at yr ymweliad safle nesaf a mawr obeithiaf y byddant yn gallu gweld dros eu hunain pa mor anaddas yw’r lleoliad hwn.”

Y rhesymoliaeth i ohirio’r penderfyniad oedd gan fod y pwyllgor yn gweld pryderon o ran diogelwch y tir a hefyd bod y safle ddim yn addas gan nad oes gan y pentref gyfleusterau ar gyfer datblygiad o’i fath.