I gloi rhaglen digwyddiadau Haf y Brifysgol, ymunwch â’r dathlu nos Sadwrn, Medi’r 9fed yn Neuadd Lloyd Thomas am noson arbennig yng nghwmni Rhys Taylor a’i fand poblogaidd ‘50 Shêds o Lleucu Llwyd’.
Yn ystod y noson ceir cyfle i glywed ‘mash ups’ byw, gan gyfuno rhai o ganeuon poblogaidd a thraddodiadol Cymreig â alawon adnabyddus fyd eang, gan gynnwys Bryn Fôn ac ABBA, Elin Fflur a Sinatra ac Edward H. Dafis a Tom Jones i enwi ychydig, a’u perfformio mewn arddulliau newydd a gwahanol.
Mae Rhys Taylor a’r band ’50 Shêds o Lleucu Llwyd’ yn adnabyddus iawn. Maent yn aml yn perfformio ar S4C, BBC Radio Cymru, mewn priodasau, gwyliau cerddoriaeth ac achlysuron arbennig ledled y wlad.
Dywedodd Ann Bowen Morgan, Cadeirydd Pwyllgor Gŵyl Dewi:
“Rydym ni ar bwyllgor Gŵyl Dewi Llambed yn falch iawn i gydweithio gyda’r Brifysgol wrth drefnu a noddi’r digwyddiad gwych y ‘50 Shêds o Lleucu Llwyd’ ar 9fed Medi eleni. Mae Rhys Taylor a’i fand yn gerddorion arbennig a thalentog iawn ac yn sicr fe gawn noson fendigedig – dewch i gefnogi a mwynhau.”
Ychwanegodd Gwilym Dyfri Jones, Profost Campws Llambed:
“Mae’r Brifysgol yn edrych ymlaen yn eiddgar i lwyfannu’r noson gabaret yn Neuadd y Celfyddydau fis Medi. Bydd yn adeiladu ar lwyddiant y cyngerdd ‘Noson o’r Sioe’ ddechrau Mehefin ac yn benllanw rhaglen digwyddiadau haf y Brifysgol yn Llambed. Mi ddylai fod yn noson i’w chofio!”
Bydd rhaid archebu tocynnau o flaen llaw. Mae modd archebu tocynnau i’r gyngerdd drwy ddilyn y ddolen hon. Trinity Saint David online ticket sales powered by TicketSource. Mae’r tocynnau yn £15 yr un.