On’d oedden nhw’n ddyddiau da?

Ieuan Davies yn rhannu ei atgofion am y Siswrn Aur yn Llanybydder.

gan Gwyneth Davies
Ieuan-Davies

Dechreuodd fy ngyrfa i fel person trin gwallt ym 1972 pan es i i Goleg Llandrillo ym Mae Colwyn i gael hyfforddiant. Bues yno tan 1974 a phan symudais nôl i Lanybydder, es i redeg siop trin gwallt, sef y Siswrn Aur, yn nhŷ Jac Bwtshwr sef wncwl Oriel Jones am ryw flwyddyn. Ym 1975 prynwyd Elvet House ac agorodd mam, sef Mali Davies, siop yn gwerthu amrywiaeth o bethau ar y llawr cynta – o ddillad gwely a gwlân i zips! Roedd popeth yno ond cael gafael mewn pethau oedd y broblem fwyaf. Roedd y siop fel ogof Aladdin! Ar yr ail lawr wedyn, agorais i ‘Y Siswrn Aur.’ Bu nifer o ferched yn gweithio gyda fi ar hyd y blynyddoedd ac ro’n nhw i gyd yn weithwyr da.

Gwyddai’r mwyafrif ym mhentref Llanybydder bod mam wedi bod yn nyrs am bum mlynedd ar hugain a’i bod hefyd wedi gweithio gydag Ambiwlans St Ioan. Roedd hyn yn handi iawn i wybod! Felly, os bydde problem feddygol gyda rhywun yn y pentre, yna galw yn y siop gyda mam fydden nhw’n gwneud gan obeithio y bydde hi’n gallu eu helpu. Roedd mam yn dda gyda’i chyngor, chwarae teg iddi ac ar adegau, roedd hyd yn oed rhaid dod allan â’r ‘bandages’. Roedd Llanybydder yn lle prysur yr adeg honno gan nad oedd angen mynd i unman arall i siopa. O ganlyniad felly, gwelwyd pobl yn cerdded yn ddyddiol o gwmpas y pentre a beth yn well na galw gyda mam am glonc yn y siop cyn mynd adre.

Yn ystod dyddiau cynnar y siop trin gwallt, roedd ‘perms’ yn boblogaidd iawn. Deuai pobl i dorri eu gwalltiau hefyd wrth gwrs a nifer yn eu lliwio’n borffor, yn union fel maen nhw’n gwneud heddiw. Nid yn unig trin gwalltiau o’n ni yn y siop yr adeg honno. Ro’n ni hefyd yn torri tyllau yn y clustiau a’r cleientiaid dw i’n cofio fwyaf amdanynt yw’r babis o Ysgol y Dolau. Roedd yr ysgol wedi cau wrth gwrs a choleg i bobl o dras Asiaidd oedd yno erbyn hyn. Y nanis felly oedd yn dod â’r babis aton ni fel arfer i dyllu eu clustiau a hynny pan o’n nhw’n ddeg diwrnod oed. Roedd defod fel hon yn rhan o’u crefydd. Cafwyd ambell sgrech am rai munudau ond yna, ar ôl ychydig, byddai’r storm yn tawelu ac roedd popeth yn iawn.

Cyfle i ymlacio oedd dod i’r siop i nifer a beth yn well na chael paned bach o de hefyd  a chyfle i gael mwgyn. I’r rhai nad oedd yn ysmygu, doedd treulio amser mewn lleoedd llawn mwg, ddim yn brofiad pleserus. Mae’n rhaid i mi gyfaddef felly fy mod yn falch iawn pan ddaeth stop ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus.  Oes, mae gen i ddigon o atgofion. Fel person trin gwallt, ro’ch chi’n cael pob math o storïau – pob ‘date’, ble ro’n nhw wedi bod yn ystod yr wythnos a aeth heibio a hyd yn oed yr hanes amdanynt yn cwmpo mas â’u partneriaid. Pob digwyddiad bron yn eu bywydau a rhaid oedd gwrando’n astud a chadw nifer o’r storïau’n dynn o dan eich het. Oedd, roedd y siop yn llawn cyffro a dim un diwrnod yr un peth. Credwch neu beidio, do’dd hi ddim yn anghyffredin i weld menywod yn cyrraedd gyda thywel ar eu pennau ac mewn tipyn o stad. Doedd dim eisiau holi beth oedd wedi digwydd gan fod y tywel yn adrodd cyfrolau. Wrth roi clust i wrando wedyn, byddai hynt a helynt y broses liwio’n cael ei datgelu a golwg y gwallt yn dystiolaeth nad oedd pethau wedi mynd cweit fel ro’n nhw wedi disgwyl. Rhaid oedd mynd ati wedyn i sortio’r gwallt mas yn go handi a beth yn well na gweld cwsmeriaid hapus yn gadael y siop.

I gael yr hanes yn llawn, mynnwch gopi cyfredol o Bapur Bro Clonc.