Llongyfarchiadau i Gareth a Wendy Evans o Ddiadell Parcyrhos, Blaencwrt am ennill Pencampwriaeth Brîd Defaid Llanwenog yn Sioe Frenhinol Cymru yr wythnos ddiwethaf.
Dyma’r tro cyntaf iddyn nhw ennill pencampwriaeth y brîd ers iddynt ddechrau dangos ym 1996.
Dyma restr o beth enillon nhw i gyd:
1af Hwrdd Hŷn
6ed Hwrdd Blwydd
5ed Dafad
2ail Oen Fenyw
Pencampwr Gwrwaidd gyda’r Hwrdd Hŷn
yn ogystal ag ennill Pencampwr Brîd Defaid Llanwenog gydar Hwrdd Hŷn.
Dywedodd y beirniad John Green o Ddiadell Blaenplwyf,
“Roedd stoc o safon uchel a braf oedd gweld niferoedd da ymhob dosbarth.
Roedd yr hwrdd a gipiodd brif Bencampwriaeth Defaid Llanwenog yn esiampl da o’r brîd. Roeddwn yn edrych am ben gwyrwaidd a hwnnw yn ddu gyda hyd da o’r llygad i’r trwyn a’r glust yn feddal ac yn fach, corff hir a llydan ac yn sefyll ar bedair coes cryf a chadarn ymhob cornel.
Llongyfarchiadau i bob un arddangoswr a braf oedd gweld y tywyswr ifanc yn cael y cyfle i arddangos.”