Pennaeth yn gadael

Mrs Jane Wyn yn cyhoeddi ei hymadawiad ag Ysgol Bro Pedr

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Jane Wyn

Jane Wyn

Mewn llythyr at rieni ddoe, cyhoeddodd Mrs Jane Wyn, Pennaeth Ysgol Bro Pedr ei bod wedi cael swydd newydd gan ddechrau ym mis Medi.

Dywedodd “ei bod wir yn fraint ac yn anrhydedd gweithio gyda phlant a phobl ifanc Llanbed a’r ardal” a diolchodd am gymorth a cefnogaeth barhaus y rhieni.

Daw’r cyhoeddiad hwn yn sioc i bawb gan y bydd hyn yn golled enfawr i’r ysgol a’r gymuned wedi iddi fod wrth y llyw ers wyth mlynedd.

Dywedodd Twynog Davies, cyn lywodraethwr “Rwy’n cofio bod ar y panel wrth ei phenodi yn athrawes Saesneg yn yr ysgol yn chwilio am brofiad addysgu Chweched Dosbarth.”

Ychwanegodd Twynog “Gwnaeth hi argraff fawr iawn, ac roeddem yn benderfynol ei phenodi.”

Yng ngholofn “Cymeriadau Bro” Papur Bro Clonc, ysgrifennodd Elaine Davies amdani fel hyn “Wedi cyfnod yn gweithio i’r cyfryngau bu’n athrawes Saesneg uchel ei pharch yn Ysgol y Preseli.  Wedi symud i weithio i Lanbed, cofodd gyfleoedd  niferus.  Llwyddodd i gyflawni gwaith Pennaeth y Chweched a chafodd ei dyrchafu’n Bennaeth Cynorthwyol.”

Bydd Mrs Wyn yn parhau yn ei swydd tan yr 31ain o Awst a bydd hysbyseb ar gyfer swydd y Pennaeth yn ymddangos yn y dyddiau nesaf.

Dymunwn yn dda iddi yn ei swydd newydd fel arolygwraig ysgolion gan ddiolch yn ddiffuant iddi am ei chyfraniad i addysg yn yr ardal hon dros y blynyddoedd.