Faint ohonoch chi wyliodd ffilm “Y Sŵn” ar S4C neithiwr? Oeddech chi wedi’ch ysbrydoli o’i gwylio gan eich bod yn rhy ifanc i gofio’r cyfnod, neu a oeddech chi’n teimlo’n emosiynol o weld cymeriadau amlwg y cyfnod yn cael eu potreadu’n dda mewn ffilm am ddigwyddiadau fu’n rhan o’ch bywyd?
Ffilm newydd am hanes sefydlu S4C yw Y Sŵn, a rhan Gwynfor Evans, Llangadog yn yr ymgyrch dros y sianel deledu Gymraeg. Rhaid i fi gyfaddef fy mod yn ddigon hen i gofio cyffro’r cyfnod ac yn gallu gwerthfawogi’r ffaith fy mod wedi cwrdd â sawl un o’r prif gymeriadau.
Ysgrifennodd Heledd ap Gwynfor, wyres Gwynfor Evans ar twitter wedi iddi weld y ffilm yng Nghaerfyrddin:
Mae ffilm #YSwn gwerth ei gweld – mae’r perfformiadau yn anhygoel a’r delweddau i gyd yn wych a’r stori yn un epic! Emosiynol iawn i ni fel teulu – ond o’r diwedd cafwyd Gwynfor, Ghandi a Luther King Jr yn rhannu’r sgrin fawr.
Roedd siwr o fod yn brofiad unigryw iddyn nhw fel teulu i weld Rhodri Evan yn chwarae Gwynfor a Eiry Thomas yn chwarae Rhiannon ei wraig, oherwydd fe’m cyffyrddwyd i ar sawl adeg yn ystod y ffilm o weld eu portreadau credadwy hwy o ddau gymeriad mor annwyl a fu’n byw ym Mhencarreg.
Roedd ambell olygfa o Gwynfor yn y ffilm wedi eu portreadu’n union – ei osgo, ei wallt gwyn a’i addfwynder. Llongyfarchiadau i Rhodri Evan. Yn wir teimlais dipyn o ias yn gwylio’r rhain.
Cafwyd perfformiadau cryf a theimladwy hefyd gan Eiry Thomas o Rhiannon Evans fel gwraig a mam-gu gofalgar a chefnogol wrth i’r ddau brif gymeriad drafod canlyniad brawychus posib yr ymprydio.
Ffilm lwyddiannus iawn yn fy marn i y dylid ei dangos i bawb yng Nghymru – yn ifanc ac yn ddi-Gymraeg er mwyn cyflwyno adeg allweddol yn hanes yr iaith. Wedi’r cwbl, mae’n annodd credu ein bod ni’n siarad am bethau a ddigwyddodd dros ddeugain mlynedd yn ôl erbyn hyn.
Dywedodd Lee Haven Jones y cyfarwyddwr:
Ffilm sydd yn olrhain ac yn mentro ailwerthuso hanes diweddar Cymru; sydd yn adrodd y stori o’n safbwynt ni fel cenedl ac ar adegau yn ei hail-ddychmygu!”
Cafwyd gryn dipyn o hiwmor ac ysgafnder yn y ffilm hefyd ac un olygfa gyfrwys lle cefais i fy nghoglais wrth ei gwylio oedd yr olygfa gyda Margaret Thatcher yn y tŷ bach heb bapur tŷ bach!
Mynegodd Llio Milward ar twitter neithiwr:
Crio o’r dechrau tan y diwedd wrth wylio ffilm #yswn Gwych. Yr hanes hollbwysig yma nawr yn mynd i aros yn fyw yng nghof cenedlaethau’r dyfodol. Atgofion o’r cyfnod yna yn fy mhlentyndod ac o’r cymeriadau yn creu llwyth o emosiynau ynof i.
Diddorol oedd gwylio’r protestiadau eraill a fu cyn y bygythiad i ymprydio gan gynnwys clip o gyfweliad rhwng Sulwyn Thomas a Ned Thomas ar y prom yn Aberystwyth. Meddyliwch fod tri Chymro amlwg wedi dringo Mast Pencarreg er mwyn diffodd y trosglwyddydd teledu!
Gwyliwch y ffilm da chi. Wedi’r cwbl, prin iawn yw ffilmiau S4C y dyddiau hyn, ond mae’n drysor ac yn ffordd wych o nodi pen-blwydd S4C – sianel sydd wedi cyflawni cymaint dros y Gymraeg.