Rhuban Glas Ieuenctid i Elan Jones o Gwmann

Llefaru llwyddiannus yn yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
879CE82F-0C70-481B-88F9

Llongyfarchiadau i Elan Jones o Gwmann am ennill y Rhuban Glas Ieuenctid yn yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw.  Dyma Wobr Goffa Gwyneth Morus Jones sef y gystadleuaeth llefaru unigol 16 ac o dan 21 oed ac roedd 9 yn cystadlu.

Roedd Elan yn llefaru dau ddarn sef “Y Genhedlaeth Goll” gan Alan Llwyd a “Cofeb Pen-yr-Orsedd” gan Karen Owen ym Moduan heddiw.

Y beirniaid oedd Linda’r Hafod a Geraint Hughes. Dywedodd Linda’r Hafod wrth draddodi’r feirniadaeth ar ran y ddau:

“O’r agoriad, roeddem yn ymwybodol o lais arbennig Sara Elan.  Ein teimlad oedd, nad allem ddymuno am well cyflwyniad o’r gerdd Cofeb Pen-yr-Orsedd – arbennig yn wir!  Cafwyd ymdriniaeth ysgytwol ohoni. Bu iddi dynnu deigryn” (Cerdd: Y Genhedlaeth Goll).

Myfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd yw Elan ar hyn o bryd ac Elin Williams, Cwmann a fu’n ei hyfforddi.  Dywedodd Elan,

“Roeddwn mor hapus i gael cyrraedd llwyfan y Genedlaethol, ac roedd cyrraedd y brig a derbyn gwobr o’r fath yn fraint ac yn anrhydedd i mi. Diolch o galon i Elin Williams am fy hyfforddi ac i bawb am eu cefnogaeth.”

Camp arbennig felly, a’r fedal yn cydnabod beth mae pobl yr ardal hon yn gwybod yn barod sef bod Elan yn berfformwraig dalentog iawn.