Cynhelir twrnamaint rygbi 7 bob ochr yr Urdd yn flynyddol ar y cyd gydag Undeb Rygbi Cymru. Mae’r ŵyl yn rhoi cyfle i dros 650,000 o ddisgyblion dod ynghyd a chwarae’r gêm ar gaeau Pontcanna yng Nghaerdydd.
Eleni, am y tro cyntaf, roedd gan Ysgol Bro Pedr sawl tîm dan hyfforddiant Swyddog Datblygu Rygbi URC, Mr Owain Bonsall, Mr Gary Morgan a Miss Carwen Richards.
Tro blynyddoedd 10 ac 11 oedd hi ar y dydd Mawrth gyda thimoedd yn cystadlu i gyrraedd y rownd derfynol. Ar ôl ennill un gêm a cholli dwy yn y grŵp, daeth y tîm i’r trydydd safle gan olygu byddent yn mynd ymlaen ac yn curo Dŵr-y-Felin a Bryn Tawe yn y gemau cyn-derfynol. Llwyddodd tîm Ysgol Bro Pedr i esgyn i’r ail safle yn y Fowlen gan golli i Gwm Rhymni o 17 pwynt i 7.
“Mae’r disgyblion wedi bod yn ymarfer yn galed ar gyfer yr wythnos ac mae wedi talu ffordd wrth i dîm merched blynyddoedd 10 ac 11 ddod yn ail yng nghystadleuaeth y Bowlen”
Erbyn dydd Mercher, daeth y tywydd yn fwy ansefydlog a phenderfynwyd gohirio gemau bechgyn blynyddoedd 9 ac 11.
Gyda dim gwellhad yn y tywydd daeth y penderfyniad i ganslo’r twrnamaint ar ddyddiau Iau a Gwener gan olygu byddai gemau merched blynyddoedd 8 a 9, bechgyn blwyddyn 8 ynghyd â gemau blwyddyn 7 yn cael eu canslo.
“Mae’n drueni nad yw disgyblion eraill ddangos eu doniau wrth i weddill y gystadleuaeth gael ei ganslo”
Mewn datganiad, medd yr Urdd bod y ‘rhagolygon tywydd gwael iawn a chyflwr y caeau’ yn golygu bod rhaid canslo gweddill y gemau. Serch hyn, cydnabyddwyd bod yr Ŵyl Prosiect Gwaddol yn parhau.
Yn ôl datganiad ar y cyd gan Urdd Gobaith Cymru ac Undeb Rygbi Cymru, maent yn ‘ymddiheurio am yr anghyfleustra’.
Mae Ysgol Bro Pedr yn edrych ymlaen yn fawr i weld Tîm Rygbi Merched blwyddyn 7 yn chwarae yn Stadiwm y Principality ar y 25ain o Ebrill mewn ffeinal cystadleuaeth arall.