Cyhoeddwyd ddoe y bydd Siop Llanfar Clydogau yn cau ym mis Awst. Mae hyn yn siom mawr i bobl yr ardal wedi i berchnogion newydd gymryd drosodd dros flwyddyn yn ôl.
“Mae wedi bod yn y dŵr ers amser maith, ond yn anffodus mae’n bryd cyhoeddi y bydd yn rhaid i Siop Llanfair roi’r gorau i fasnachu a chau ar 17eg o Awst, 2023.
Nid yw hwn yn benderfyniad rhwydd. Roedden ni’n gwybod y byddai’n her cadw’r siop ar agor o’r funud y cymeron ni’r awenau. Gyda nifer isel o ymwelwyr o’r cychwyn cyntaf mewn siop bentref fach dawel mewn lle hardd ond allan o’r ffordd, nid oedd hynny’n mynd i ddigwydd heb fuddsoddiad ariannol sylweddol. Fe wnaethon ni ofyn i’n staff rheolaidd ac aelodau o’r gymuned beth hoffen nhw ei weld o’r siop, ac fe wnaethon ni weithredu.”
Mae Ruth ac Alec wedi gweithio’n galed yn gan adennill y Swyddfa Bost, ehangu ystod o ddeunyddiau ail-lenwi, gwella cyflenwadau o ffrwythau a llysiau ffres, cyflenwi bara surdoes o Becws a chynnig papurau newydd ar ddydd Sadwrn.
Yn ychwanegol i hynny, sefydlwyd caffi a oedd yn cynnwys trwyddedu, sgoriau hylendid bwyd 5*, gyda chacennau ffres. Ehangwyd y caffi hwnnw wedyn i ardal dan do ac awyr agored, gan brynu meinciau o Longwood ac agor gardd i’r cyhoedd.
“Yn anffodus, er bod y newidiadau hyn wedi bod yn hyfryd, ni allai neb fod wedi rhagweld anawsterau gyda chyflenwadau, rhyfel yn Ewrop, na’r argyfwng ariannol gwaethaf mewn cenhedlaeth. Nid oes gan bobl arian i’w wario, a phe na baem yn rhedeg y siop, mae’n debyg na fyddem yn ei ddefnyddio’n rheolaidd chwaith! Rydym wedi cymryd cyngor gan siopau pentref eraill mewn sefyllfaoedd tebyg, cynghorwyr ariannol, a gweithwyr proffesiynol busnes, ac yn anffodus yr unig ffordd o weithredu nad yw’n golygu ein bod yn mynd i fwy o ddyled yw cau. Nid oes gennym ni’r amser na’r arian i fuddsoddi mewn dim byd mwy ar gyfer y siop – nid yw hyd yn oed cynnal digwyddiadau (yr oeddem wedi gobeithio eu gwneud) yn ymarferol.”
Bu’n rhaid i Ruth ddychwelyd i’w gyrfa ym mis Ionawr ar y cyd â rhedeg y siop, a bydd Alec nawr hefyd yn mynd yn ôl i’w yrfa fel hyfforddwr gyrru.
“Mae gennym fis a hanner ar ôl o fasnachu, a byddwn yn parhau hyd at y funud olaf. Bydd cacennau ffres yno o hyd ar ddydd Iau, ynghyd â bwyd poeth ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn.
Fel teulu, dydyn ni ddim yn mynd i unman, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at allu dal i fod yn rhan o ddigwyddiadau cymunedol yn y dyfodol. Diolch i’n holl gwsmeriaid am ein cefnogi dros y ddwy flynedd diwethaf.”
Dywedodd Aerwen Griffiths bod hyn yn newyddion trist a “Byddwn yn gweld ishe’r siop ond mae cymaint o bobl y pentre yn prynu oddi wrth y siopau mawr a chael y bwyd a’r nwyddau wedi eu cludo i’r cartref. Mae’n beth cyffredin iawn yn anffodus i weld faniau yr archfarchnadoedd yn dod i’r pentref.”
Mae Siapa Abheda wedi dechrau ymgyrch i geisio perswadio pobl y pentref i gefnogi’r siop.
“Mae Siop Llanfair yn siop cau oni bai bod y gymuned leol yn ymestyn am eu waledi a dangos eu bod mewn gwirionedd eisiau siopa yma, digon i droi’r balans o goch i ddu.
Os ydym am gadw ein swyddfa bost leol gyfleus, banc, siop bentref a chaffi, mae angen inni ddechrau defnyddio’r lle ar gyfer siopa, nid yn unig bob hyn a hyn, ond bob mis.
Ddydd Sadwrn cefais olwg dda iawn ar rai o’u stoc, a llwyddais i roi basged gwerth £50 at ei gilydd, mas o’r eitemau rwy’n eu prynu’n gyson mewn mannau eraill. Byddai 20 basged fel yna bob mis mewn gymuned leol o dros 700 yn ddigon i gadw ein siop, swyddfa bost a banc ar agor.
Nawr yn amlwg mae £50 yn llawer, ond allech chi wario £10 neu £15 y mis yno? Gwnewch eich syms, ac yna penderfynwch a yw gyrru 6 milltir bob tro rydych angen peint o laeth neu bostio parsel neu gael ychydig o arian parod yn gwneud mwy o synnwyr economaidd!”