Siop Llanfair a’r Pentre 1861 – 1900

Hanes diddorol pentref Llanfair Clydogau a gyhoeddwyd yn rhifyn Hydref Papur Bro Clonc

gan Dan ac Aerwen
Hen-Lun-Llanfair

Mae hanes Siop Llanfair, neu Llanfair Bridge Stores fel y byddai’n cael ei galw, yn hir a diddorol ac ynghlwm â digwyddiadau, pobol a bywyd y pentref.

Roedd y tir gwreiddiol yn eiddo i’r Arglwydd Carrington, dyn cyfoethog oedd yn Aelod Seneddol ac yn berchen llawer o dir yng Ngheredigion ac yn Swydd Buckingham ac wedi etifeddu’r cyfan gan ei dad. Roedd yn byw yn Whitehall, yn Llundain.

Yn 1861 John Evans oedd yn rhedeg y Siop pan oedd poblogaeth y pentref yn 614 ac yn cwympo bob blwyddyn ers i’r gweithfeydd mwyn ac arian gau a dynion yn symud i’r de i chwilio gwaith yn y pyllau glo.

Tŷ to gwellt oedd yr adeilad yr adeg honno ac roedd wedi bod yn efail y gof hefyd. John Evans oedd y person cyntaf i gadw siop yno. Dechreuodd trwy werthu bwyd, dillad a nwyddau haearn ond penderfynodd nad oedd yr adeilad yn addas fel siop ac aeth ati i gael caniatád y perchennog, Arglwydd Carrington, i ail adeiladu tŷ byw, siop a thai allan ar y safle. Cafodd ganiatád a gorffennwyd yr adeilad yn 1863.

Costiodd y cyfan £495 iddo. Cafodd grant o £40 gan yr Arglwydd Carrington. Ar farwolaeth hwnnw yn 1868 gwerthwyd ystad Llanfair i William Jones, perchennog ystad Glandenys a chafodd John Evans £50 arall tuag at y costau adeiladu. Parhaodd i dalu rhent o £15 y flwyddyn am dros ddeng mlynedd ar hugain!

Erbyn 1871 Mary Evans a’i mab John oedd yn rhedeg y Siop gyda morwyn a gwas yn eu helpu. Yn 1873 fe wnaed cais ganddynt i gael trwydded i werthu gwin a chwrw yno. Roedd Mary hefyd yn winiadwraig. Yn 1881 roedd Siop hefyd yng Nglanrhyd a Chwrt y Clychau a oedd yn gwerthu bwyd ac roedd dyn yn gwerthu wyau yn Oxen Hall, rhain i gyd lan ar fynydd Llanfair.

Lawr yn y pentre roedd dau gobler, gof a theilwr yn Offis Fach a sgiliau’r rhain i gyd yn angenrheidiol i bobol dlawd y pentre. Roedd fawr neb y dyddiau hynny yn berchen eu tai na’u ffermydd. Talu rhent fyddent i gyd i’r Arglwydd Carrington, ac ar ei ôl ef, i William Jones Glandenys. Erbyn diwedd y ganrif roedd siopau’r mynydd wedi cau ond Siop y Pentre ar agor o hyd.

Gallwch ddarllen yr hanes i gyd yn rhifyn Hydref Papur Bro Clonc.