Siop Llanfair a’r Pentre (Rhan 2) – 1900-1930

Hanes diddorol pentref Llanfair Clydogau a gyhoeddwyd yn rhifyn Tachwedd Papur Bro Clonc

gan Dan ac Aerwen

Cyhoeddwyd rhan gyntaf hanes Llanfair Clydogau yn rhifyn Hydref Papur Bro Clonc, a dyma ragflas o’r ail ran a gyhoeddwyd yn rhifyn Tachwedd.

Poblogaeth y pentref yn 1901 oedd 441. Yn 1900 roedd Llanfair Bridge Stores neu Siop Llanfair fel roedden ni’n arfer cyfeirio ati yn cael ei rhedeg gan Mary Evans gyda help un gwas.

Tua 1880 gadawodd Benjamin, ei mab a mynd i ffermio i Llanfair Fach ar Heol Llanfair lle daeth yn ddyn pwysig ym myd amaethyddiaeth ac yn berson dylanwadol iawn yn yr ardal.

Roedd tafarn y Llanfair Bridge Inn neu Pengeulan yn dal ar agor ac yn cael
ei rhedeg gan Thomas a’i wraig. Gweithiai Thomas hefyd yn was fferm er mwyn cael dau ben llinyn ynghyd. Bu Thomas farw yn 29 mlwydd oed o’r diciâu.

Parhaodd ei wraig i redeg y dafarn gyda Lizzie, chwaer Thomas yn ei helpu tan tua 1911. Yna fe briododd Margaret, gwraig Thomas, â Ben Jones, mab y gof a symudodd y ddau i fyw i Hendrebant. Roedd gof y pentre yr amser hynny yn gwneud clud-belenni o bres ar gyfer olwynion dŵr gyda’r saer Dan Evans, Glanrhyd yn gweithio gydag e.

Yn y cyfnod hwn roedd tair melin yn gweithio ar Heol Llanfair. Y Pandy lle byddai’r gwlân yn dod i gael ei liwio a’i sychu, y Felin lle deuai’r ffermwyr â llafur i’w falu a’r Ffatri Wlân lle byddai’r gwlân yn cael ei nyddu i wneud dillad a blancedi. O amgylch y tair melin cafodd tai eu hadeiladu i’r gweithwyr. Heddiw rydym yn galw’r rhain yn ‘Y Siti.’

Yn ysod yr amser yma roedd addysg ar gael yn yr ysgol a adeiladwyd ar lether uwchben y pentre ond roedd yn dal yn amser anodd i’r plant a’u rhieni.

Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn gorfod cerdded dwy neu dair milltir i’r ysgol ar lwybrau garw, dros dir gwlyb yn aml gan groesi nentydd gwyllt afon Clywedog. Byddai tywydd gwael yn aml yn eu rhwystro rhag mynd i’r ysgol.

Gan mai ffermio’r tir oedd gwaith y rhan fwyaf o rieni’r plant byddai digwyddiadau tymhorol yn effeithio ar eu presenoldeb yn yr ysgol, er engraifft y cynhaeaf, plannu a thynnu tatws a symud anifeiliaid. Bryd hynny efallai mai saith plentyn o blith tua 40 fyddai yn yr ysgol. Rhwng 1901 -1935 dau brifathro fu yn yr ysgol, Hugh Hughes o 1901 – 1917 a M.J. Thomas o 1917 – 1935.

Yma byddai’r rhan fwyaf o blant yn cael eu holl addysg gan nad oedd ysgol uwchradd i bawb wedi ei sefydlu yr adeg honno.

Gallwch ddarllen yr hanes i gyd yn rhifyn Tachwedd Papur Bro Clonc.