Wrth i chi fynd ar yr A482 o Gwmann tuag at Lanymddyfri fe welwch ddarluniau o Strab a Haden ar ochr y ffordd.
Mae cymunedau Sir Gâr wedi bod yn ddiwyd iawn yn yr wythnosau diwethaf yn addurno tai, gerddi, ysgolion, siopau a phrif ffyrdd i groesawu pawb i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a gynhelir wythnos nesaf yn Llanymddyfri.
Yng Nghwmann, mae cymeriadau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Llanbedr Pont Steffan a’r fro 1999, sef Strab a Haden yn gweld golau dydd.
Dywedodd Meinir Evans o Gwmann,
“Mam nath nhw erbyn Eisteddfod 99! Rhoddodd hi nhw tu fas y Pantri, Llanbed a maen nhw wedi bod yn byw ym meudy Ffosyffin ers hynny.”
Yn ystod y cyfnod hynny, roedd hi’n arferiad i gael cymeriadau er mwyn hyrwyddo’r eisteddfodau. Cyhoeddwyd yng nghylchgrawn Golwg, Mawrth 26, 1998,
“Os yw Eisteddfodau’r Urdd yn y gorffennol wedi cael mascots sy’n amrywio o Dwrch Trwyth a Morlo i Fynydd a Glöyn Byw, mae Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan a’r Fro wedi mynd am blant. Strab a Haden yw’r rheiny – bachgen a merch sy’n nodweddiadol o ddireidi a bywiogrwydd plant o bob oes a phob man. Petaen nhw yn y Gogledd, mae’n swir mai “Cês a Deryn” fyddai eu henwau ond Strab a Haden yw’r geiriau yng Ngorllewin Cymru.”
Fe gafwyd cystadleuaeth i wneud llun o’r ddau a’r enillydd oedd Meriel Hunt o Ysgol Dyffryn Teifi. Yn ystod Gŵyl y Cyhoeddi yn 1998 roedd cymeriadau Strab a Haden yn arwain gorymdaith o ryw 500 o blant trwy tref Llanbed i Jambori yn y Ganolfan Hamdden a chafwyd Sioe Strab a Haden yn Theatr Felinfach. Yn y sioe honno, roedd mwy na 300 o blant ysgolion cynradd y cylch yn chwilio am Strab a Haden.
Braf felly gweld Strab a Haden ar ochr y ffordd fawr sy’n arwain i Lanymddyfri. Gobeithio wir y bydd hi’n gystal eisteddfod â’r hyn a gafwyd ar gaeau Pontfaen Llanbed ym 1999.
Ydy, mae Strab a Haden dros 24 blwydd oed erbyn hyn. Tybed a oes tegan Haden yn eich tŷ chi, neu addurniadau o’r cyfnod y gellir eu harddangos i groesawu Gŵyl Genedlaethol yr Urdd i gymuned leol unwaith eto?