Oedi yng ngwasanaeth bws T1 heddiw

Ni fydd T1 am 16.05 Caerfyrddin i Lanbed – 17.12 Llanbed i Aberaeron yn rhedeg.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
AA501C86-04CA-403B-AA79

Cyhoeddodd First Cymru ddiweddariad am wasanaeth T1.

Oherwydd materion gweithredol ni fydd T1 am 16.05 Caerfyrddin i Lanbed – 17.12 Llanbed i Aberaeron yn rhedeg.

Bydd y gwasanaeth yn ailddechrau am 17:40 o Aberaeron.

Ymddiheurwn am yr anghyfleustra.

Ac ar ôl ymholiad gan Dorian Morgan ar trydar, cadarnhaodd First Cymru y bydd y gwasanaeth yn rhedeg o Gaerfyrddin am 17.09.  

Gobeithio nad Dorian sy’n ennill y goron yn Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen yn Llanbed prynhawn ma felly, oherwydd bydd hi’n dynn arno i gyrraedd y seremoni ar amser!