Tair seren leol yn perfformio yn y brifwyl yr wythnos hon

Elin Hughes, Elin Haf Jones ac Elliw Dafydd yn rhan o brif sioeau’r Eisteddfod Genedlaethol eleni

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
ser
588AD8BA-4819-43ED-A256
9052108F-1264-4B4D-80DD
87558483-796A-4E06-A517
21422DB3-80E9-4EA3-AD15

Yr wythnos hon yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd mae tair seren leol yn perfformio ym mhrif sioeau’r Ŵyl.

Unwaith eto eleni mae Elin Hughes o Gwmann yn serennu mewn sioe i’r teulu cyfan sef “Na, Nel! Ble mae Heddwch?” gan Meleri Wyn James. Roedd yn chwarae dwy ran yn y sioe yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion y llynedd sef Mam Nel ac hefyd Mair Mwyn.

Wrth ymateb i’r sioe yn y pafiliwn nos Fercher, dywedodd Angharad Medi Lewis,

“Front row seats yn y pafiliwn mawr i weld perfformiad Na Nel!  Elin Hughes o ti’n anhygoel, o ni mewn dagrau yn gwrando arnot ti’n canu.”

Mae Elin Haf Jones, neu Elin Lifestyle yn perfformio bob dydd fel rhan o Sioe Cyw yn yr Emporiwm ac ar Lwyfan y Maes.  Mae Elin wedi bod yn gyflwynydd poblogaidd ar raglenni plant S4C ers 2017 ac yn boblogaidd iawn ymhlith gwrandawyr ifanc iawn y sianel yn ogystal â’u rhieni.

Perfformio gyda Chwmni Arad Goch y bu Elliw Dafydd o Silian.  Roedd yn actio un o’r prif rannau yng nghynhyrchiad “Ble Mae’r Dail yn Hedfan” yn y Cwtsh, Pentref Plant ar y Maes.  Dywedodd Ffion Wyn Bowen, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Arad Goch,

“Profiad theatrig cerddorol, doniol, rhythmig a chreadigol yw Ble Mae’r Dail yn Hedfan sy’n defnyddio gwrthrychau naturiol ein hamgylchedd i ddeffro’r synhwyrau ac agor dychymyg plentyn i greu, adeiladu, chwarae, archwilio a chyfathrebu. Cynhyrchiad rhyngweithiol i blant a’u teuluoedd gydag ychydig iawn o iaith felly’n addas ar gyfer siaradwyr Cymraeg newydd.”

Ymhyfrydwn yng nghyraeddiadau’r dair ac ymfalchïwn eu bod yn rhannu ychydig o werthoedd yr ardal hon yn eu harddull o berfformio ar lwyfannau cenedlaethol.