Trinwyr Ifanc Cwmhendryd yn llwyddo yn Llanelwedd

Gwobrau i dri brawd yn y Sioe Fawr

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
D7752FCA-490A-40DC-9634
A9A6D8C1-5698-41A7-AF32
1D6C6A45-1829-4820-B9B8
709034B1-E2A9-4D08-9BA5

Cafodd brodyr bach Cwmhendryd, Llanbed tipyn o lwyddiant yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd yr wythnos ddiwethaf.

Morys – 1af fel Triniwr Ifanc y Blue Texel ar ddydd Mawrth.

Tomi – 6ed fel Triniwr Ifanc y Blue Texel hefyd.

Ianto – 4ydd yn y gystadleuaeth ar ddydd Mercher.

Tipyn o gamp yn wir.  Y bechgyn yn ymfalchïo yng nghrefft eu rhieni a dechrau arddangos yn ifanc iawn. Roedd dosbarthiadau mawr yn adran y trinwyr ifanc lle roedd tua 30 ym mhob dosbarth a hynny ar safon cystadleuaeth Sioe Frenhinol Cymru.

Dywedodd Elin Hughes, mam y bechgyn, “Wythnos yn llawn sport a joio yng nghwmni teulu a ffrindiau a braf gweld y bois yn cael llwyddiant yng nghystadleuaeth trinwyr ifanc.  Edrych ymlaen yn fawr iawn nawr at Sioe y Cardis 2024.”