Sefydlwyd Cymdeithas Undodaidd Deheudir Cymru yn 1802 er mwyn cryfhau’r ffydd yng Nghymru.
Bellach, mae 13 capel yn ardal Llanbed a Llandysul a chaiff eu hadnabod fel Undodiaid y Smotyn Du.
Dros y blynyddoedd bu sawl Llywydd i’r Gymdeithas ac am y chwe blynedd diwethaf, gwasanaethodd Morwen Thomas o gapel Cribyn ond trosglwyddwyd yr awenau i Heini Thomas o gapel Brondeifi mewn gwasanaeth ar ddydd Sul, y 19eg o Dachwedd.
Wrth ymadael â’r swydd, soniodd Morwen Thomas am ei bod wedi bod yn “fraint i wasanaethu’r enwad drwy gyfnod anodd”
“Cyn bwysiced a bod yn Gymraes”
Bydd Heini Thomas yn cymryd awenau’r Llywydd am ddwy flynedd ac ar ei urddiad soniodd am y pwysigrwydd iddi fod yn Undodwraig. Yn ei haraith, aeth ymlaen i sôn am yr atgofion oedd ganddi o fod yn Undodwraig ac am y dylanwad cafodd ei theulu arni.
Un o’r straeon mae’n ei gofio yw mynd â’i thad i’r ysbyty a doedd e ddim yn ymateb o gwbwl tan i’r cwestiwn olaf:
“Religion? A dyma dad yn agor ei lygaid ac ateb mewn llais hollol glir, “UNITARIAN”
A Mam, Sian a fi yn chwerthin yn uchel a nyrs yn ysgrifennu UNITARIAN mewn llythrennau mawr bras ar y daflen!”
Ar ôl ei chyfnod o ddwy flynedd, bydd yr awenau yn cael eu trosglwyddo i’r Is-Lywydd presennol, Wmffre Davies.