Cynhaliwyd yr oedfa fore Sul 14eg Mai tan arweiniad y Parchedig Flis Randall, Gweinidog Eglwys St Thomas. Daeth cynulleidfa dda ynghyd i wrando ar ei neges ddaeth o’r Efengylau, Mathew 13 ac Ioan 12. Cyfeiriodd at effeithiau dinistriol Corwynt Freddy ar wledydd megis Malawi. Lladdwyd llawer gan lifogydd enbyd a difethwyd cymaint o gnydau megis rhai teulu Esther Saizi.
Cymerwyd rhan yn yr oedfa gan Hilary Ashton a chafwyd darlleniadau gan Hilary Davies, Deborah Angel a Richard a Barbara Hastings. Yr organydd oedd Janet Davies a chanwyd cân gan Alan a Gwyneth Shiers ‘The Water Song’ o eiddo Alan Shiers. Diweddwyd yr oedfa gyda phaned a chacennau gan ddiolch yn fawr i Eglwys St Thomas am eu croeso hyfryd ac am eu cyfraniadau caredig yn codi arian tuag at Gymorth Cristnogol.
Dyma rhai o’r gweithgareddau eraill a gynhelir er budd Cymorth Cristnogol:
- 15fed Mai: 10.00-12.00: Bore Coffi yng Nghanolfan Pentref Cwmann a drefnir gan Eglwysi Plwyf Pencarreg a Chapel Bethel, Parc-y-rhos.
- 18fed Mai: 7.30-12.00: ‘Brecwast Mawr’ yn Festri Brondeifi a drefnir gan Gapel Brondeifi.
- 20fed Mai: 10.00-12.00: Bore Coffi Eglwys Sant Pedr yn Neuadd yr Eglwys, Llanbed.
Cynhaliwyd taith gerdded gan Gapeli Undodaidd Aeron Teifi prynhawn Sul 14eg o Fai, a bydd taith gerdded ddiwedd y mis gan Gapel Bethel, Silian ar 28ain Mai am 4.00 o’r gloch.
Dymuna Twynog Davies ar ran Pwyllgor Cymorth Cristonogol Llanbed a’r Cylch ddiolch i bob un sydd wedi trefnu cymaint o amrywiaeth o weithgareddau eleni. Dyma ddywedodd yn ddiweddar am waith pwysig Cymorth Cristnogol yn Llanbed a’r Cylch:
‘Mae gwaith dyngarol Cymorth Cristnogol mor bwysig ag erioed yn y cyfnod heriol yma lle mae cymaint o angen mewn gwledydd megis Malawi a Zimbabwe a nifer o wledydd tlawd eraill yn y byd. Teimlwn ddyletswydd yn Gristnogion i helpu’r di freintiedig a’r anghenus ymhle bynnag maent yn y byd. ’Rwyf mor falch bod y gwaith yn cefnogi Cymorth Cristnogol yn parhau gyda phwyllgor gweithgar a brwdfrydig yn Llanbed a’r Cylch a braint yw cael bod yn Gadeirydd.’
Mae Pwyllgor Llanbed a’r Cylch yn ddiolchgar i bawb sy’n cefnogi Cymorth Cristnogol eleni gyda’u rhoddion caredig tuag at yr elusen deilwng hon. Cewch wybodaeth bellach am waith Cymorth Cristnogol ar eu gwefan:
https://www.christianaid.org.uk/appeals/key-appeals/christian-aid-week