Ynni gwyrdd yw’r ffordd ymlaen!

Gweithdai ynni adnnewyddadwy yn cael eu cynnal yn yr ardal ynghanol argyfwng newid hinsawdd.

gan Ifan Meredith

Mae ardal Llangybi, Betws Bledrws a Llanbedr Pont Steffan yn un o bedair ardal sydd wedi cael eu hystyried fel ardaloedd â photensial uchel i gynhyrchu ynni adnewyddadwy. Mae’r ardaloedd eraill yn cynnwys Castell-paen (Powys), Tregynon (Powys) a Pont-rhyd-y-groes ac Ysbyty Ystwyth (Ceredigion).

‘Cydnabod bod heriau yn bodoli’

Sefydlwyd y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn 2018 i ddadansoddi a gwneud argymhellion ar anghenion economaidd ac amgylcheddol yn y tymor hir yng Nghymru. Mae’r comisiwn yn archwilio ac yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru am bolisi ynni adnewyddadwy.

Mae’r prosiect yn cael ei gynnal ar y cyd rhwng Canolfan y Dechnoleg Amgen a’r Centre for Sustainable Energy. Maent yn archwilio gyda phobl leol i gynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Ngheredigion a Phowys.

‘Goleuo argymhellion ynghylch newidiadau i reoleiddio a pholisïau’

Mae’r cynllun yn gweithredu â’r nod i greu lle i bobl gael sgyrsiau am y datblygiad ynni adnewyddadwy mwyaf perthnasol i’w hardal nhw. Hefyd, mae yn helpu pobl leol i fod yn ymwybodol o’r wybodaeth mewn ymgynghoriadau yn y dyfodol.

‘Annog prosiectau ynni cymunedol i ddatblygu’

Mae’r comisiwn yn cydnabod bod yna amrywiaethau ymysg pa fath o ddulliau ynni adnewyddadwy sy’n briodol i wahanol ardaloedd ac am ystyried ar ba raddfa fyddai prosiectau’n dderbyniol gan bobl yr ardal.

Mi fydd gwybodaeth o’r prosiect yn cael ei rannu gyda Gweinidogion Cymru a chaiff adroddiad ei lunio a fydd ar gael i gyfranogwyr y gweithdai.

Mae’r broses o gynnal gweithdai eisoes ar waith yn yr ardal gyda gweithdai yn Ysgol Bro Pedr ar brynhawn Mawrth, y 31ain o Ionawr ac yn Llangybi yn y nos. Nesaf, mi fydd arolwg yn cael ei gynnal ar-lein ym misoedd Chwefror a Mawrth lle bydd cyfle i’r cyhoedd fynegi eu barn.

Yn ystod y prynhawn, bu disgyblion Daearyddiaeth 6ed dosbarth Ysgol Bro Pedr yn trafod a datgan barn am wahanol ddulliau a thechnolegau ynni adnewyddadwy. Bu hefyd cyfle i bwyso a mesur manteision ac anfanteision y ffynonellau egni gwahanol sydd â photensial o fewn yr ardal. Yn ôl y disgyblion, roedd yn gyfle unigryw i gael trafodaeth gydag arbenigwyr yn y maes.