Mae rhai preswylwyr yn ardal Llangybi a Llanfair Clydogau wedi derbyn llythyr yn eu hysbysu am waith ffordd gan Network Rail ger Fferm Maes y Forest. Gellir meddwl bod gwaith yn digwydd o’r diwedd er mwyn ailagor y rheilffodd rhwng Llanbed a Thregaron?
Llythyr gan Core Highways yw hwn yn dweud bod cwmni Dyer & Butler yn bwriadu gwneud gwaith hanfodol ar ran Network Rail ar y ffordd rhwng mynedfa Fferm Maes y Forest a chyffordd Llangybi yn Llanfair Clydogau. Bydd y gwaith yn digwydd rhwng 8 y bore a 5 y prynhawn o’r 10fed i’r 12fed o Fehefin.
Rhyfedd meddwl y byddai hen drên yn arfer teithio lein “Milford to Manchester”, neu Caerfyrddin i Aberystwyth drwy Llangybi. Roeddwn yn meddwl felly a yw ymgyrch Trawslink Cymru wedi llwyddo i ailagor y rheilffordd o glywed bod Network Rail yn gweithio yn yr ardal? Ar y llaw arall, ydy Network Rail yn gwneud gwaith ffordd heblaw ar reilffyrdd?
Ond gwaith trwsio hen bont reilffordd yw hyn mae’n debyg a gwelliannau i’r ffordd rhwng Llangybi a Llanfair Clydogau. Bydd ffordd amgen i gerbydau drwy Lanbed yn ystod cyfnod y gwaith.