Braf gweld tyrfa o bell ac agos yng Nghanolfan Bentref Cwmann fore Llun 13 Mai yn mwynhau’r dewis blasus o gacennau gyda’r te neu goffi… ac yn rhoi’r byd yn ei le! Trefnwyd stondinau gacennau, planhigion a gwaith crefft a’r arian o’r gwerthiant hefyd yn cefnogi Cymorth Cristnogol. Cafwyd cystadleuaeth yn dyfalu pwysau’r gacen a threfnwyd raffl a’r gwobrau da yn golygu y gwerthwyd nifer sylweddol o docynnau raffl.
Agorwyd y Bore Coffi gyda gair o groeso gan Twynog Davies, Cadeirydd Pwyllgor Cymorth Cristnogol Llanbedr Pont Steffan a’r Cylch. Cyfeiriodd at bwysigrwydd Wythnos Cymorth Gristnogol a diolchodd i aelodau’r pwyllgor am eu gwaith yn cydlynu’r gweithgareddau ym Mai. Diolchodd i bawb sy’n cyfrannu at drefnu a chynnal y digwyddiadau ym Mai ac i bob un sy’n dod i’r digwyddiadau ac yn rhoi’n garedig tuag at Gymorth Cristnogol.
Gwestai arbennig y Bore Coffi oedd Mari McNeill, Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru dderbyniodd groeso cynnes iawn gan Twynog Davies a phawb yn bresennol. Cyfeiriodd at waith Cymorth Cristnogol a’r ymgyrch codi arian ym Mai yn canolbwyntio’n benodol ar wlad Burundi, Affrica. Soniodd am Aline a’i theulu sy’n byw ym Murundi a sut y daethant i wybod am Gymorth Cristnogol. Derbyniodd gefnogaeth a hyfforddiant gan asiantaethau lleol sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda Chymorth Cristnogol ym Murundi. Arianwyd hynny gan Gymorth Cristnogol ac mae ganddi bellach fusnes ei hunan sy’n dod ag incwm i’w chefnogi hi a’i theulu. Newidiodd Cymorth Cristnogol ei bywyd o un o dlodi enbyd i un yn llawn gobaith am ddyfodol gwell. Diolchodd Twynog Davies i Mari McNeill am ei chyflwyniad a chefnogi’r Bore Coffi ar ddechrau wythnos brysur iawn iddi’n teithio Cymru yn hyrwyddo Wythnos Cymorth Gristnogol.
Diolchodd hefyd i’r trefnwyr am Fore Coffi mor llwyddiannus; i bawb fu’n coginio’r holl gacennau, yn gweini’r danteithion a chyfrannu’r gwobrau raffl, y crefftau a’r planhigion; ac i bawb ddaeth a chefnogi Cymorth Cristnogol. Mi wnaeth annog pawb i gefnogi gweithgareddau eraill Wythnos Cymorth Gristnogol megis:
15 Mai: 7.30-11.30 y bore yn Festri Brondeifi : ‘Brecwast Mawr’ gyda raffl – trefnir gan aelodau a chyfeillion Capel Brondeifi.
15 Mai: 6.00 y prynhawn Capel Bethel, Silian: Taith Gerdded noddedig hamddenol o tua 5 milltir a drefnwyd gan Fedyddwyr Cylch Gogledd Teifi gan obeithio am noson sych a braf!
Diolch yn fawr iawn i bawb am drefnu’r holl weithgareddau ac am eich rhoddion caredig a hael yn cefnogi Wythnos Cymorth Gristnogol 12-18 Mai.