gan
Dylan Lewis
Heddiw, bu swyddogion Heddlu Dyfed Powys a’u camera yn gwirio cyflymdra cerbydau yn Llanbed. Roeddent hefyd yn cydweithio â swyddogion Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth A Gorllewin Cymru.
Gwelwyd yr heddlu yn stopio cerbydau yn Stryd y Bont a’r swyddogion tân yn trafod diogelwch cerbydau ar Ffordd Llanfair.
Roedd y camera cyflymder wedi parcio yn Llanybydder a Chwmann ddoe hefyd yn cofnodi cyflymdra’r cerbydau mewn ardaloedd 20mya. Felly byddwch yn ofalus wrth deithio a chadwch at y cyflymdra cywir.
Yn ôl gwefan Gan Bwyll gall y fan barcio yn y lleoliadau canlynol yn yr ardal:
- B4337 yn Llanybydder
- Pencarreg
- Alltyblaca
- Pentref Cwmann
- De Cwmann