Celine a Beti o Gwmann yn dadorchuddio cofebau Dai Llanilar

Ail enwi Canolfan S4C yn y Sioe Fawr yn Corlan Dai Llanilar

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
0E0229D3-004C-4ECF-B8B8

Celine a Beti yn dadorchuddio’r llechi yn fyw ar S4C.

Cynhaliwyd seremoni yn adeilad S4C ar faes y Sioe Fawr ddoe er mwyn ei ail enwi yn Corlan Dai Llanilar ac yn cymryd rhan yn y seremoni oedd wyres Dai Jones sef Celine Pugh-Davies a’i or-wyres Beti, y ddwy yn byw yng Nghwmann erbyn hyn.

Dywedodd Celine,

“Pleser o’r mwya’ oedd cael dadorchuddio dwy lechen er cof am fy nhad-cu ar adeilad S4C sydd bellach yn cael ei adnabod fel Corlan Dai Llanilar, ac o gael y fraint o’i wneud gyda fy merch yn y Sioe Fawr gyda Cheredigion yn sir nawdd. Dw i’n gwybod y byddai tad-cu wrth ei fodd.  Dyma faes a sefydliad oedd yn meddwl cymaint iddo.”

Gwnaed y cofebau wrth fynedfa’r adeilad gan Scott Danson o gwmni Dawns Welsh Gifts.  Dywedodd Dawn,

“Roedd yn anrhydedd aruthrol i Dawns Welsh Gifts gael eu gwahodd i greu’r deyrnged i’r eicon hwn o fyd darlledu Cymraeg. Fe wnaeth Scott eu dylunio a’u crefftio allan o ddwy slab o lechen hardd Cwt-y-Bugail gyda’r ddelwedd o Dai, a ddewiswyd gan ei weddw.”