gan
Ifan Meredith
John Phillips o Lanbed yw’r ail i ymddangos yng nghyfres ‘Cloncan’ ac mae ef yn ymateb i gynlluniau Cyngor Sir Ceredigion i adleoli Llyfrgell y dref.
John Phillips yw cyn-Gyfarwyddwr Addysg Sir Aberteifi a Phrif Weithredwr Dyfed. Credodd yn gryf dros y blynyddoedd na ddylai ymyryd yng ngwaith swyddogion y sir wedi iddo ymddeol. Ond nawr ei fod wedi croesi 90 oed, ni all beidio ymateb i rywbeth fel sy’n ei wylltio cymaint.
Cofia gydweithio â Llyfrgellydd y Sir ar y pryd, sef dyn mor arloesol ag Alun R Edwards i agor Llyfrgell bwrpasol yng nghanol tref Llanbed. Gwyliwch y cyfweliad fideo arbennig hwn.