Ar y 1af o Fawrth cyflawnodd Callum Wright o Gwmann hunanladd. Roedd e ond yn bymtheg oed. Mae hyn nid yn unig wedi cael effaith aruthrol ar ei deulu ond hefyd ar y gymuned leol.
O ganlyniad i hyn, crewyd tudalen gofundme er mwyn codi arian i sefydlu Ardal Goffa Gymunedol i Callum. Erbyn hyn codwyd bron i £2,000.
Ers marwolaeth Callum, rhannwyd cymaint o straeon ac atgofion, gan ddangos yr effaith ddofn a gafodd Callum ar fywydau pobl. Roedd Callum bob amser yn gallu cynnig gwên, jôc a chlust i wrando i bawb, gan gefnogi eraill gyda’u hiechyd meddwl eu hunain.
Y gobaith yw y bydd y gronfa hon yn ei gwneud hi’n bosib creu lle i bobl gofio Callum a pharhau i ddod o hyd i gysur.
Mae union leoliad yr ardal arfaethedig hon eto i’w gadarnhau ond bydd y manylion yn cael eu rhannu’n gyhoeddus maes o law.
Dywedodd Kirsty Wright, mam Callum,
‘Fel teulu, bydd gennym ni dwll siâp Callum yn ein calonnau am byth. Rydym yn wirioneddol ddiolchgar am yr holl gariad a ddangoswyd gan ein cymuned leol, ac rydym wedi ein syfrdanu gan yr ymateb hael a gafodd cronfa goffa Callum. Diolch.’