Ar ddiwedd Ionawr eleni, bu farw Irene Williams yn 102 oed. Bu hi a’i gŵr, yr athro Cyril Williams yn byw yng Nghwmann am flynyddoedd ac mae gan lawer iawn o bobl atgofion melys ohoni a’i brwdfrydedd heintus dros gefnogi achosion da.
Ym mis Mai 2002, cyhoeddodd Twynog Davies bortread ohoni yn ei golofn Cymeriadau Bro ym Mhapur Bro Clonc.
“Fel y gwyddom, bu Irene yn Gadeirydd Cangen Llambed ers tua deunaw mlynedd, ac yn ôl ei thyb hi, mae’r gangen leol yma yn batrwm i ardaloedd eraill ei hefelychu. Yn ôl yr amcangyfrif, mae’r gangen leol wedi codi dros £50,000 i Gymorth Cristnogol gyda 87.5% o’r hyn a godwyd yn mynd yn uniongyrchol i helpu’r trydydd byd. Mae’n ddyledus iawn i drigolion yr ardal am eu haelioni.
Mae teithio wedi bod yn rhan bwysig o fywyd Irene. Cafodd y cyfle i fynd i sawl gwlad yn sgil diddordebau ei phriod, sydd yn cael ei gydnabod fel un o arbenigwyr mwyaf ein Cenedl ar wahanol Grefyddau’r Byd. Bu yna gyfle i fynd i’r Unol Daleithiau, Ewrop, Thailand, India, China, Korea, Japan, Israel, De Affrica, Jordan, Syria a Rwsia. Mae’r byd yn gymharol fach i Irene! Bu rhai o’r teithiau er hynny yn ymwneud â’r ffaith ei bod yn aelod o’r Cenhedloedd Unedig ac mi gafodd gwmni y diweddar Myriel Davies ar sawl achlysur. Cafodd y fraint ddwy waith o gyfarfod yr Archesgob Desmond Tutu yn ardal Soweto, a thra yr oedd Desmond Tutu ar ymweliad â Chymru, derbyniodd oddi wrth Irene, Groes Geltaidd o waith ‘Rhiannon’ o Dregaron.
Bu llawer o’r teithiau hefyd yn ymwneud â’i gwaith o dan faner Cymorth Cristnogol, ac mi welodd dros ei hun brosiect yn yr India lle defnyddiwyd yr arian i greu fferm ddŵr i helpu trigolion lleol i dyfu cnydau.
Heblaw am ei gwaith gyda Chymorth Cristnogol, mae hefyd yn gadeirydd lleol o Amnest Rhyngwladol. Cofiwn hefyd am ei gwaith gyda TFSR (Tools for self reliance) – cymdeithas leol a sefydlwyd i addasu hen offer fferm mewn gweithdy yn Nolaugwyrddion, Pentrebach, trwy garedigrwydd David Williams.
Teimlodd ers peth amser bellach ei bod wedi colli cyfle i fynychu Addysg Uwch oherwydd yr Ail Ryfel Byd. Roedd yr awydd a’r her yn aros er hynny. Ym 1988, tra yn ei saithdegau cynnar, dyma benderfynu dilyn Cwrs Gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Llambed a graddio gydag Anrhydedd 2:1 ar ôl tair blynedd. Ond nid oedd hyn yn ddigon. Aeth ymlaen i wneud ymchwil ar y testun ”Heddychiaeth yng Nghwm Gwendraeth 1939-46” ac enillodd radd uwch M. Phil am y gwaith pwysig yma.
Erbyn hyn mae Irene wedi cyrraedd 80 oed ond ni fuasai neb yn credu hynny. Mae rhyw egni rhyfeddol yn perthyn iddi. Un o’r pleserau mwyaf a ddaeth i’w rhan yn y gorffennol oedd cael croesawu myfyrwyr tramor i Gae’r Nant ac mae llawer ohonynt yn dal i gysylltu. Nid yw rhaniadau crefydd yn golygu dim i Irene – mae yn gyfle i ddod i adnabod ffordd ein gilydd a’n hatgoffa ein bod ni gyd yn frodyr yng Nghrist.
Er bod Irene yn weithgar ei hun, mae ganddi’r ffordd unigryw hefyd o gael eraill i weithio wrth ei hochr. (Tra yng Nghaerdydd llwyddodd i gael benthyg carafan Julian Hodge i helpu i gasglu arian). Mae’n aelod brwdfrydig o Blaid Cymru a Chapel Soar ac yn gefnogol o waith Cytun er mwyn cael mwy o gydweithio rhwng yr Eglwysi. Pan fydd yna amser prin i ymlacio, mae wrth ei bodd yn darllen neu yn garddio.”
Roedd hi’n fam i Martyn ac Eirian a’r diweddar Ann, mam-gu a hen fam-gu serchog a chariadus. Cynhelir angladd hollol breifat, ond gellir cyfrannu pe dymunir tuag at Lyfrau Llafar Cymru.