Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ystyried symud Llyfrgell Gyhoeddus Llanbed o’r adeilad pwrpasol presennol yng nghanol y dref i’r Ganolfan Lles ger Ysgol Bro Pedr. Derbyniodd y Cyngor Tref nifer o lythyron yn gwrthwynebu’r cynllun sydd tan ystyriaeth. Trefnwyd dwy ddeiseb yn nhref Llanbed, yn annibynnol o’r Cyngor Tref, yn gwrthwybebu’r cynllun.
Mae’r Cyngor Tref wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus i dderbyn barn trigolion Llanbed am gynllun Ceredigion. Cynhelir yn Neuadd Victoria, Ffordd Bryn nos Iau 16eg Mai am 7.30 o’r gloch. Mae’r Cyngor Tref yn ddiolchgar bod y Cynghorydd Catrin M. S. Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion Diwylliant a Hamdden, Elin Jones AS yn Senedd Cymru a Ben Lake AS yn Senedd San Steffan yn dod i’r cyfarfod. Caiff ei gadeirio gan y Maer y Cynghorydd Gabrielle Davies a’r Cynghorydd Ann Bowen Morgan, Gynghorydd Sir Ceredigion Ward Llanbed.
Dewch i Neuadd Victoria nos Iau 16eg Mai am 7.30 o’r gloch i fynegi eich barn am ddyfodol lleoliad Llyfrgell Gyhoeddus Llanbed.
Croeso cynnes i bawb.