Tryst iawn darllen bod y Cyngor Sir yn meddwl symud y Llyfrgell allan o canol y dref. Mae’r cof yn fyr, oherwydd pan oedd y farchnad wedi cael ei symud allan o’r dref i lawr i’r hen orsaf roedd angen ail ddefnyddio’r safle. Daeth “Quicksave” fel archfarchnad ond rhan o’r ddel gyda’r ddatblygwr i godi adeilad a symud swyddfa y Cyngor Sir a’r Llyfrgell allan o neuadd y dref a’i ail sefydlu yma. Adeilad a lleoliad addas arbennig yng nghanol y dref. Bydd rhaid ymladd yn erbyn y pendyrfyniad hwn.
Mewn datganiad i Clonc360, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cyhoeddi y bydd yna ymgynghoriad i ailstrwythuro gwasanaethau llyfrgelloedd y Sir. Yn ôl Ann Bowen Morgan, Cynghorydd Ward Llanbed, y cynllun sy’n cael ei ystyried yw gosod y gwasanaeth yn y Ganolfan Les newydd yn Llanbed.
Benthycwyd dros 33,000 o lyfrau o’r llyfrgell llynedd.
“rhan o ystod o arbedion gyda’r nod o sicrhau gwasanaeth llyfrgell gynaliadwy yn wyneb amodau ariannol anodd”
Daw’r newyddion hyn yn dilyn pryderon am ddyfodol darpariaeth toiledau cyhoeddus y Sir a’r codiad o 11% yn nhreth cyngor.
“darparu atebion hirdymor o safon”
Nod yr ymgynghoriad yw chwilio datrysiad yn y tymor hir ac am ddatrysiad sy’n effeithiol yn amgylcheddol sy’n “cyflawni blaenoriaethau’r cyngor”.
“derbyniais luoedd o lythyrau ac e-byst yn protestio yn erbyn y symud”
Dywed Ann Bowen Morgan, Cynghorydd Ward Llanbed bod y syniad yn “siom enfawr”. Esboniodd byddai adleoli yn gwneud hi’n “anodd iawn” i henoed cerdded i leoliad gwahanol.
“Gwneir gwaith ardderchog gan y staff ar gyfer y plant a sylwch fod Cered wedi dechrau sesiwn Lego yno bob nos Lun”
“Falch bod yna ymgynghoriad”
Mi fydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gyflwyno maes o law ond mae Cyngor Sir Ceredigion yn annog trigolion i ddefnyddio’r gwasanaethau sydd ar gael yn y llyfrgelloedd.