Mae Cyngor Tref Llanbed yn falch iawn bod CAB Ceredigion yn parhau i gynnal eu sesiynau gwybodaeth a chyngor yn Llanbed. Cynhelir eu sesiynau’n wythnosol ar ddyddiau Llun rhwng 10.00 y bore a 3.00 y prynhawn. Cynhaliwyd lansiad y sesiynau nôl yn Nhachwedd yng nghwmni Maer a Maeres Llanbed, y Cynghorydd Rhys Bebb a Mrs Shân Jones a Mr Ben Lake, AS Ceredigion. Trefnir y sesiynau gan Sue Lewis, Swyddog Datblygu Busnes a’i thîm yn CAB Ceredigion. Ariennir y sesiynau gan Gronfa Costau Byw Cymunedol y Loteri Genedlaethol gyda chymorth ychwanegol gan CAVO (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion).
Staff CAB Ceredigion sy’n cynnal y sesiynau gyda chymorth gwirfoddolwyr cymwysiedig. Nid oes angen gwneud apwyntiad ac maent yn cynnig gwybodaeth a chyngor am ddim i bawb yn gyfrinachol, yn annibynnol ac yn ddiduedd. Rhoddir cyngor ar ystod eang o faterion yn amrywio o fudd-daliadau a dyled i faterion yn ymwneud ag ynni a chyflogaeth. Darperir gwybodaeth hefyd ar eu prosiectau megis eu Prosiect Teuluoedd sy’n cynnig cymorth a chanllawiau i deuluoedd mewn meysydd megis sut i ymdopi gyda chostau byw. Darperir cyngor un-i-un a sesiynau cynghori ar gyfer grwpiau cymunedol, ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, darparwyr iechyd a sefydliadau eraill yng Ngheredigion. Mae croeso i bawb ymweld â hwy, pwy bynnag ydych chi a beth bynnag yw’r broblem.
Os nad yw’n gyfleus i chi ymweld â’r sesiynau yn Llanbed, gellir cysylltu â hwy trwy ddefnyddio eu Llinell Gyngor sydd ar gael dyddiau Llun, Mercher a Iau rhwng 10.00 y bore ac 1.00 y prynhawn. Ffoniwch naill ai 01239 621974 neu 01970 612817. Gellir hefyd anfon neges destun neu WhatsApp atynt – defnyddiwch y rhif 0778 236 1974 ond sylwch na allent dderbyn galwadau ffôn ar y rhif hwn. Gellir hefyd ddanfon e-bost atynt: gofyn@cabceredigion.org Os am gysylltu â hwy ar y cyfryngau cymdeithasol, gellir anfon neges atynt ar ‘Facebook’ @cabceredigion. Cyfeiriad eu swyddfa yw CAB Ceredigion, Stryd Napier, Aberteifi SA43 1ED.
Elusen annibynnol a chwmni cyfyngedig yw CAB. Mae ganddynt Fwrdd o Ymddiriedolwyr lleol sy’n gyfrifol am lywio cyfeiriad cyffredinol a chynaliadwyedd yr elusen. Maent yn cynorthwyo’n lleol miloedd o bobl yn flynyddol ac ar hyn o bryd yr argyfwng costau byw sydd ar ben y rhestr o faterion sy’n achosi pryderon. Mae mwy o bobl nag erioed angen eu cefnogaeth ac ni allent gynnig yr holl gymorth heb gyfraniadau eu gwirfoddolwyr. Os oes gennych tua 5 awr yr wythnos i’w gynnig, byddent yn falch iawn pe byddech yn cysylltu â hwy i drafod sut i ddod yn wirfoddolwr. Darperir hyfforddiant llawn ac unwaith byddwch wedi eich hyfforddi, maent yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli hyblyg. Mae rhai’n dewis gweithio o gartref a chynnig cyngor trwy e-bost, sianeli digidol neu dros y ffôn. Mae eraill yn cynnig cyngor wyneb yn wyneb yn eu lleoliadau galw heibio yng Ngheredigion (ad-delir eich costau teithio.) Os am fwy o wybodaeth ynglŷn â dod yn wirfoddolwr, gellir eu he-bostio (enquiries@cabceredigion.org) ac anfon eich ymholiad i gyfeiriad eu swyddfa yn Aberteifi. Cyfeiriad eu gwefan yw <https://www.cabceredigion.org/>