Cynhelir dwy Eisteddfod CFfI heddiw gydag aelodau clybiau lleol yn cystadlu. Eisteddfod Ceredigion ym Mhafiliwm Pontrhydfendigaid ac Eisteddfod Sir Gâr yn Ysgol Bro Myrddin.
Gobeithio y gallwn ddod ag uchafbwyntiau o ddiddordeb lleol i chi, ac os ydych yn mynychu un ohonyn nhw, cofiwch gyfrannu lluniau, fideos a chanlyniadau yn ystod y noson.
Rydym wedi hysbysu’r clybiau lleol am y blog byw ac ni chafwyd gwrthwynebiad ganddynt. Pob lwc i aelodau Bro’r Dderi, Felinfach, Llanwenog, Llanddewi Brefi, Mydroilyn a Phontsian yn Eisteddfod Ceredigion ac i aelodau Cwmann, Dyffryn Cothi a Llanllwni yn Eisteddfod Sir Gâr.
Cofiwch y gallwch ddechrau eich blog byw eich hunan ar wefannau bro eraill os ydych am roi sylw i glybiau eraill. Ydy’ch clwb chi’n perthyn i un o’r gwefannau bro hyn?
Aeron360
BroAber360
BroCardi360
Caron360
Carthen360
Cwilt360
#SIRGÂR Einir o Glwb Llanllwni yn drydydd yng nghystadleuaeth gwaith cartref i aelodau 16 neu iau am greu poster.
#SIRGÂR Llongyfarchiadau i Barti Llefaru Clwb Llanllwni ar ddod yn drydydd.
Llanwenog yn cloi cystadlaeth ensemble.
Canu Emyn dan 28 oed
1. Lowri Elen Jones, Bro’r Dderi
2. Ela Mablen Griffiths-Jones, Mydroilyn
3. Cadi Williams, Talybont
Parti Llefaru
1. Llanwennog
2. Tregaron
3. Lledrod
Unawd Sioe Gerdd dan 17 oed
1. Fflur McConnell, Mydroilyn
2. Mari Evans, Llanwenog
3. Swyn Tomos, Llanwenog
Canlyniad diweddaraf:
Ymgom:
1. Bro’r Dderi
2. Llanwennog
3. Pontsian
Cystadleuaeth y Parti Llefaru sydd ar lwyfan Pafiliwn Bont ar hyn o bryd.
Canlyniadau:
Llefaru dan 28 oed:
1. Ela Mablen Griffiths-Jones, Mydroilyn
2. Alaw Fflur Jones, Felinfach
3. Glesni Thomas, Potsian
Canu Emyn nofis:
1. Richard Jones, Pontsian
2. Mari Evans, Llanwennog
3. Osian Jenkins, Llanddewi Brefi
Unawd Alaw Werin:
1. Lowri Elen Jones, Bro’r Dderi
2. Beca Williams, Talybont
=3. Mari Evans, Llanwennog
=3. Tirion Tomos, Llanwennog
Fflur, Beca a Betrys o Glwb Bro’r Dderi wedi cystadlu ar yr ymgom.
Canlyniad yr Unawd Offerynnol:
1. Alwena Owen, Pontsian
2. Mali Gerallt Lewis, Felinfach
3. Guto Davies, Tregaron
Ymgom Bro’r Dderi wedi bod wrthi yn cystadlu yng nghystadleuaeth yr Ymgom.