Garddwraig organig o Gellan yn creu gardd sioe ficro ar gyfer y Sioe Fawr

Stephanie Hafferty yn creu gardd sioe dros dro am y tro cyntaf yn Llanelwedd

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
IMG_5826
2025E7D8-C350-4AAD-876B-D750D952C67A

Mae garddwraig organig leol, awdur a thyddynnwr Stephanie Hafferty yn creu gardd sioe ficro ar gyfer y Pentref Garddwriaethol newydd yn Sioe Frenhinol Cymru.

Esbonia Stephanie,

“Mae Gardd Feicro Rhandir Dim Palu yn dangos faint o fwyd y gellir ei dyfu ar gyllideb fach, mewn gofod bach, gan ddefnyddio dulliau cynaliadwy, organig, sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd. Mae’r gwely llysiau yn dangos rhyngblannu, aml hau, ffyrdd o wneud y mwyaf o botensial pob planhigyn a sut i dyfu coed afalau mewn llain fach.

Mae elfennau allweddol yn cynnwys iechyd y pridd, compostio, defnyddio tomwellt, arbed hadau a sut i weithio gyda bywyd gwyllt i gynyddu bioamrywiaeth ar gyfer rheoli plâu yn naturiol a chynaeafau toreithiog. Cyn belled â phosibl, mae’r planhigion wedi’u codi gan ddefnyddio hadau treftadaeth Gymreig neu hadau a gafwyd gan gwmnïau Cymreig, a’u tyfu yn fy nghartref yng Nghellan.”

Bydd gan Stephanie stondin yn y Pentref Garddwriaeth lle bydd yn rhoi cyngor “Plot to Plate” i dyfu eich hunan.

Mae Stephanie wedi creu gerddi sioe dros dro ar gyfer sawl digwyddiad gan gynnwys Gŵyl Gerddi Hampton Court y RHS, Sioe Frenhinol Caerfaddon a’r Gorllewin a Gwyliau Sunrise. Dyma’r tro cyntaf iddi wneud un yng Nghymru.