Gofal piau hi ar y ffyrdd dros y penwythnos

Storm Bert yn gadael llawer o ddŵr ar ffyrdd yr ardal

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
72DAB154-62CD-44F9-AC0D

Car wedi ei adael ym Maes Parcio’r Co-op Llanbed gan Nikki Jones

AB14F91A-A186-4A2F-8470

Llifogydd ar y tro yn Nhy Mawr rhwng Llanybydder a Rhydcymerau gan Patricia Baker

“Sdim byd yn bert am Storm Bert.”

Mae wedi bod yn ddiwrnod garw iawn heddiw gyda’r glaw a’r gwynt yn ruo dros yr ardal.  Storm Bert sydd yn cael y bai.

Y neges yw i chi beidio teithio os nad oes rhaid i chi wneud.  Gwelwyd yr afon Teifi yn gorlifo ei glannau yn eithaf cyflym heddiw.

Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru,

“Mae glaw trwm o #StormBert yn achosi rhybuddion llifogydd: Byddwch yn barod a rhybuddion llifogydd ledled Cymru.

Gallwch wirio sut mae lefelau afonydd yn codi neu’n gostwng yn eich ardal ar ein gwefan, a hefyd chofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd.”

Dweud eich dweud