Gohirio Sioe Feirch Llanbed gan fod y caeau mor wlyb

Tywydd gwlyb y tymhorau yn cael effaith ar drefniadau sioe

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
56C5F8DC-E19E-4EF2-810F

Trefnwyd Sioe Feirch Llanbed eleni ar gyfer Dydd Sadwrn Ebrill 20fed yn Llanllyr Talsarn ond oherwydd yr holl law mawr a’r ffaith bod y caeau mor wlyb, gohirir y sioe nawr tan Ddydd Llun Gŵyl Banc Mai 6ed.

Nid ar chwarae bach y mae newid dyddiad sioe mor fawreddog a phoblogaidd.  Mae cystadleuwyr yn dod o bell ac agos i Sioe Feirch Llanbed a chymaint o waith trefnu ar ei chyfer, heb sôn am y costau cynyddol.

Dywedodd John Green, aelod blaenllaw o bwyllgor gwaith y sioe,

“Siaradon ni fore Llun, a doedd dim dewis gyda ni.  Roedd synnwyr cyffredin yn dweud bod yn rhaid i ni newid y dyddiad.  Mae’r cae sioe yn rhy wlyb a fydde’r un cerbyd yn gallu mynd mewn heb sôn am lorïau ceffylau.”

Cysylltwyd â’r beirniaid yn y lle cyntaf a chyhoeddwyd am y bwriad o newid dyddiad.  Rhaid gweddïo nawr am gyfnod o dywydd sych fel y gellir bwrw ymlaen â’r trefniadau a gwireddu’r bwriad o gynnal y sioe ar y dyddiad newydd.