Mwy o hanes Llanfair Clydogau

Rhan 3 o hanes y pentref ym Mhapur Bro Clonc

gan Dan ac Aerwen

Roedd bywyd yn y pentre wedi newid tipyn ers dechrau’r ganrif. Yn 1901 roedd y boblogaeth yn 441 ond erbyn 1931 wedi cwympo i 293 gyda llawer o boblogaeth  ifanc y mynydd wedi gadael ac ystadau y boneddigion wedi eu gwerthu a rhai wedi chwalu.

Yn 1935 daeth prifathro newydd i’r Ysgol ar y Bryn sef Jack Poole. Erbyn hyn roedd arolygwyr yn dod o amgylch yr ysgolion i wneud adroddiadau ar gyflwr a safon y dysgu, yr adeilad ac ymateb y plant. Mae stori mewn un adroddiad am bryder ynglŷn â thri o’r athrawon oedd yn beicio o Lanbed bob dydd ac wedi blino gormod i wneud eu gwaith yn iawn.

Erbyn 1930 roedd y plant yn gallu sefyll arholiad i fynd i’r ‘County School’ Tregaron neu i Ysgol Ramadég Dewi Sant, Llanbed. Roeddynt yn cael eu cludo am ddim i Dregaron ond gorfod ffeindio ffordd eu hunain i Lanbed. Yn 1943 daeth prifathrawes newydd i ysgol y pentre o’r enw Eiddwen James, merch ifanc, alluog a thalentog. Cafodd ei dewis yn un o bedwar dros Gymru gyfan i fynd ar gwrs addysg i athrawon yng Ngholeg Dulwich, yn Llundain.

Ger y Siop roedd tafarn Llanfair Bridge Inn neu Pengeulan, ei enw cywir. Ar ôl i Margaret golli ei gŵr ac ail briodi Ben y Gof cafodd y ddau ddwy ferch. Un o’r merched yma oedd mam Béti, Bryncoch, Cellan, a gwraig John Davies, Fferm Castell gynt, nawr yn byw ym Mryncastell. Roedd Beti yn enwog am ddiwynio dŵr. Caeodd y tafarn tua 1938.

Trwy angen merched a gwragedd ardal Llanfair a Chellan i gwrdd a chymdeithasu, penderfynwyd sefydlu cangen o Sefydliad y Merched yn 1926 a chwrdd yng Nghellan ond erbyn y pumdegau roedd Llanfair yn cwrdd yn Neuadd yr Eglwys yn y pentre. Rydym yn parhau i gwrdd gydag ugain o aelodau ar hyn o bryd, unwaith yn uniaith Gymraeg ond erbyn hyn dim ond dwy ohonom sydd ar ôl sy’n gallu siarad Cymraeg.

Yn 1942 dechreuwyd Clwb Ffermwyr Ifanc yn Llanfair a Chellan trwy angen ffermwyr a phlant yr ardal, gan gwrdd dros y Gaeaf yn wythnosol gyda siaradwyr gwadd a chystadlu mewn siarad cyhoeddus trwy gyd-weithio gyda’r Urdd. Cynhaliwyd Rali yn Llanfair yn 1943.  Dyma ddigwyddiad pwysig i’r pentre, gan roi cyfle i ardaloedd eang i gymeryd rhan a chystadlu. Hyd at 1948 yng Nghellan y byddent yn cwrdd ond o hyn ymlaen byddent yn cwrdd yn Neuadd Yr Eglwys yn Llanfair. Am ryw reswm daeth y cyfan i ben yn 1950.

Gallwch ddarllen yr hanes i gyd yn rhifyn Rhagfyr Papur Bro Clonc.