Llongyfarchiadau gwresog i ferched Sarn Helen am ennill cystadleuaeth Côr Llefaru dros 16 mewn nifer yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd ddoe.
Roedd rhaid cyflwyno detholiad hyd at 6 munud o hyd allan o weithiau Rhydwen Williams neu/ac Iwan Llwyd. Hyfforddwyd y merched gan Elin Williams, Cwmann.
Dywedodd y beirniaid Carwyn John ac Eleri Lewis Jones,
“Dyma ddetholiad mwyaf mentrus y gystadleuaeth gan fynd â ni ar hyd y lôn o weithiau Iwan Llwyd. Dyma ddehongliad naturiol a di ffys oedd yn egluro’n ddeallus. Gwelwyd y llon a’r lleddf ar hyd daith y lôn honno.”
Enillwyd Cwpan Rhys Bowen i’w ddal am flwyddyn a £500 gan Gapel Annibynwyr Carmel er cof am gyfraniad y Capel i gymuned Penrhiwceiber, Cwm Cynon o 1881 hyd Mawrth 2024 pan gaewyd y drws am y tro olaf.
Yn gynharach yn y dydd daeth Grŵp Llefaru Man a Man yn drydydd ar lwyfan y Genedlaethol. Tipyn o gamp yn wir.
Dywedodd Elin Williams,
“Prowd, dim whare, eleni eto. Criw Sarn Helen yn ennill y côr llefaru nos Wener, a Man a Man yn 3ydd ar y parti llefaru yn y bore. Nest Jenkins yn ennill y Llwyd o’r Bryn (emosiynol!) a Celyn yn ennill y llefaru dan 12 ar ddechrau’r wythnos. A chael gwefr ar y dydd Llun yn canu gyda Chôr Bytholwyrdd o dan arweiniad Rhiannon, fy ffrind gorau.”