Malurio wal Capel Rhydybont, Llanybydder

Rhywun wedi bod yn tynnu cerrig o’r wal yn fwriadol

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
FEEEAB8A-7CC3-4CF0-9EBD

Llun gan Donna Robson.

0B29C340-EC4A-43D1-ADA0

Llun gan Donna Robson.

Yn gynnar nos Sadwrn, maluriwyd wal mynwent capel yr annibynwyr yn Llanybydder, sef Capel Rhydybont a gadawyd y cerrig rhydd ar hyd y palmant a’r ffordd.

Cyhoeddodd Donna Robson ar facebook nos Sadwrn,

“Trist gweld hyn yng nghapel Rhydybont. Cliriais y cerrig (sy’n ymddangos fel pe baent wedi’u tynnu o’r wal yn fwriadol) o’r ffordd.”

Mae’r lluniau uchod yn dangos y difrod diagen a wnaed i’r hen wal.

Ychwanegodd y Cynghorydd Denise Owen,

“Mae’n rhaid bod rhywun wedi gweld pwy wnaeth hyn – fe’i gwnaed yng ngolau dydd! Os y gwelsoch chi unrhywbeth, cysylltwch â 101 a rhoi gwybod iddyn nhw.  Ymddygiad echrydus.”