Ddydd Mawrth, Ebrill 2ail, cyflwynwyd tystysgrifau i dri Diffoddwr Tân o Orsaf Dân Llanbedr Pont Steffan am 20 mlynedd o ymroddiad a gwasanaeth i’r gymuned leol.
Gyda chyfanswm o 60 mlynedd o wasanaeth ar y cyd cafodd y Rheolwr Gwylfa Aled Morgan a’r Diffoddwyr Tân Huw Rowcliffe a Glyn Jones wobrau gwasanaeth hir gan Gadlywydd yr Orsaf Danny Bartley.
Wrth gyflwyno’r gwobrau yn ystod noson ymarfer yr Orsaf, dywedodd Cadlywydd yr Orsaf Bartley:
“Hoffwn longyfarch Aled, Huw a Glyn ar eu cyflawniadau rhyfeddol, mae heno yn cynrychioli carreg filltir yn eu gyrfaoedd gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Hoffwn ddiolch iddyn nhw i gyd am eu hymrwymiad a’u hymroddiad i ddiogelwch eu cymuned leol.”
Roedd Aled Morgan (Mogs i lawer yn ardal Llanbed) yn ysu am fod yn ymladdwr tân ers yn fachgen ifanc pan cafodd y fraint o gwrdd â’r criw ar y pryd yn yr orsaf.
I gyrraedd ei rôl presenol bu’n rhaid sefyll arholiadau ysgrifennedig, mynychu cyrsiau hyfforddi, 18 mlynedd o waith caled, a dysgu wrth yr holl aelodau profiadol oedd wedi bod yn rhan o’r Frigad hefyd.
Y cyngor byddai Aled yn cynnig i unrhywun sy’n ystyried swydd o fewn y Frigâd Tân, yn ddynion a menywod, byddai
“Os chi ise helpu pobol, bod yn rhan o dîm ac os ydych yn mwynhau gwaith caled a’r profiad o ddefnyddio injan dân, ewch amadani.”