Am 9.35 o’r gloch neithiwr, Chwefror 8fed, cafodd criwiau tân Llanbed, Tregaron, Llanymddyfri, Llandysul ac Aberystwyth eu galw i dân yn Llanfair Clydogau yn dilyn adroddiadau am fflamau gweladwy.
Mewn datganiad gan Wasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru dywedwyd,
“Ymatebodd y criwiau i fwthyn domestig unllawr a oedd ar dân wrth iddynt gyrraedd. Roedd y tân wedi’i gyfyngu i gegin a gofod to’r eiddo a defnyddiodd y criwiau dair pibell bwysedd uchel, dwy set o offer anadlu, gêr bach ac un ysgol estyniad fer i ddiffodd y tân. Defnyddiodd y criwiau hefyd ysgol trofwrdd i dorri rhan o do’r eiddo er mwyn cael mynediad haws. Dinistriwyd yr eiddo yn rhannol gan y tân ond doedd neb wedi anafu.”
Gadawodd y criwiau y lleoliad tua un o’r gloch bore ma.
Erbyn heddiw mae cymdogion a thrigolion Llanfair yn estyn pob cymorth posib i’r preswylwyr sydd mewn tipyn o sioc ar ôl y digwyddiad. Hysbyswyd ar grŵp Llanfair Clydogau ar facebook bod digon o ddillad wedi dod i law.