On’d oedden nhw’n ddyddiau da?

Ail ran cyfweliad Danny Davies, Garej Gwalia, Llanybydder nôl ym 1994

gan Gwyneth Davies
Danny-ai-fws-jpg

Roedd mynd lawr yn y caets am hanner milltir fel se chi’n mynd ar io-io. Roedd yn trafaelu dim whare!  Pan o’n nhw’n gwbod bod rhywun newydd yn dechrau yn y gwaith, bydde’r person yna’n cael wynebu’r iet yn y caets. Os oedd eich llygaid chi ar agor, ro’ch chi’n teimlo’ch hunan yn disgyn fel carreg. Wrth gau eich llygaid, do’ch chi ddim yn clywed dim byd. Lawr ar waelod y pwll, roedd y ‘black anthracite’ – y glo gorau sydd i’w gael. Os oedd rhywun yn cael ei ladd yn y pwll, rhaid oedd mynd yno trannoeth fel arfer- fel petai dim wedi digwydd.

Tynnu’r trams oedd gwaith y ceffylau ac ro’n nhw’n gweithio’n galed iawn. Ro’n nhw’n gweithio tua 13 o shiffts yr wythnos. Ro’n nhw i gyd yn gweithio dwy shifft mewn diwrnod. Dim ond un wythnos o wyliau o’n nhw’n cael y flwyddyn. Roedd yn greulon i ddod lan â’r ceffylau o’r pwll. Ro’n nhw’n rhedeg fel dynion dwl ar ôl dod mas. Do’n nhw ddim yn gallu cael porfa achos bydde fe’n rhy ‘rich’ iddyn nhw. Bwyd sych fel cyrch o’n nhw’n cael dan ddaear a digon o ddŵr hefyd wrth gwrs. Pan o’n i’n dod lan i’r haul, roedd y golau’n effeithio arna i am damaid bach. Pan ddechreuais i, roedd 114 o geffylau’n gweithio yn y pwll ac mae’n rhaid dweud eu bod nhw’n cael gofal da. Ro’n ni’n cael ambell geffyl dwl cofiwch a doedd dim pwrpas cadw ceffylau fel hynny yn y pwll ac felly, ro’n nhw’n cael eu gadael allan yn syth.  Roedd caneris wedyn yn y swyddfa lan ar y top lle’r oedd y rheolwr. Roedd cadw caneris yn bwysig iawn achos os oedd ‘explosion’, yna roedd yn rhaid i’r rhai oedd yn mynd lawr i geisio achub y glowyr, fynd â chaneri gyda nhw. Os oedd ‘gas’ yn yr aer, roedd y caneri’n cwympo’n farw.

Bues i’n gweithio yn y pwll glo am 16 mlynedd. Roedd y shifft yn saith awr a hanner. Ro’n i’n dechrau o’r tŷ am tua 6 o’r gloch yn y bore ac ro’n ni’n gorfod cyrraedd cyn i’r hwter fynd am saith. Bydden ni’n gorffen y shifft wedyn rhwng hanner awr wedi 2 a hanner awr wedi 3. Un tro, fe gysges yn hwyr a chyrraedd ffenest y ‘lamp room’ jyst cyn i’r rheolwr ganu’r hwter. Gwrthododd roi lamp i fi i fynd i ddechrau gweithio ac roedd yn rhaid i chi fod yna cyn 7 i dderbyn y lamp. Gorfes i fynd adre wedyn a cholli dwy shifft a chyflog hefyd wrth gwrs. Dyn cas oedd e achos do’n i byth yn hwyr.  Ro’n ni i gyd yn bwyta bwyd gyda’n gilydd ac roedd lot o storïau. Ro’n ni’n cael lot o sbri. Os oedd ceffyl yno gyda chi pan o’ch chi’n bwyta’ch bwyd, yna rhaid oedd troi pen y ceffyl i gyfeiriad arall neu fe fydde ei drwyn e yn eich bocs bwyd chi.  Os oedd dilledyn gyda chi’n hongian lan ac oren yn y boced, bydde’r ceffyl yn siŵr o’i arogli ac yna fe fydde’n gwasgu’r sudd allan i gyd. Dim ond pil fydde ar ôl gyda chi. Fel y dywedais, ym 1937, roedd 114 o geffylau yn gweithio yno. Pan ddes i o’r pwll glo ym 1953, dim ond pump ceffyl oedd ar ôl. Roedd tipyn o foderneiddio wedi digwydd erbyn hyn a’r injans yn dechrau cymryd lle’r ceffylau. Fflagon a Darcy oedd enw dau o’r ceffylau yn y pwll a buon nhw yno yn hirach na fi. Roedd trefn arbennig ar gyfer enwi’r ceffylau. Ro’n nhw dewis llythyren ar gyfer pob blwyddyn a llythyren gyntaf enw pob ceffyl yn cyfateb â’r flwyddyn y cafodd ei brynu.  Wrth wneud hyn, ro’n nhw’n gwybod faint o amser roedd pob ceffyl wedi bod yna. Roedd prif dwnnel a thwneli bach yn y pwll a galle dyn dieithr fynd ar goll yn hawdd.  Roedd ‘dead ends’ yno ac felly roedd hi’n ddigon hawdd i bobl gael gafael ynddoch os oedd problem. Os o’ch chi’n gweithio mewn lle bach, chwe throedfedd o ‘headroom’ oedd gyda chi. Yn y twneli mawr (the main tunnels), fe fydde pymtheg troedfedd gyda chi. Pythefnos  o wyliau’r flwyddyn ro’n ni’n cael a hynny’n cynnwys y Nadolig. Yn ystod y cyfnod hwnnw bydde criw ohonon ni’n mynd lawr i Borthcawl i drio yfed ambell dafarn yn sych ac yn llwyddo bob tro. Roedd hyn yn helpu i olchi’r dwst i lawr chi’n gweld.

Fe gladdes i mam ym 1940 pan o’n i’n 17 a’n nhad wedyn ym 1946.  Yn ystod angladd dad, cwrddes i â Mair y wraig. Ro’n i’n 23 ar y pryd. Roedd hi’n nyrsio yng Nghaerdydd ac yn dod o Faesycrugiau. Gadawais i’r pyllau glo pan o’n i’n 30 ar ôl 16 mlynedd o wasanaeth. Roedd tua 800 o lowyr yn gweithio yno pan orffennais i. £15 oedd fy nghyflog ar y pryd. Ym 1949 priodes i a Mair. Roedd wncwl Mair yn cadw Bysiau Gwalia yn Llanybydder ac yn gweithredu o garej Midland. Pan fuodd e farw ym 1952 cafodd Mair, ei brawd a’i chwaer y busnes ar ei ôl. Roedd 4 neu 5 bws 29 seater gydag e. Ar ôl rhyw flwyddyn neu ddwy, gwelwyd nad oedd y busnes yn ddigon mawr i gynnal tri theulu. Felly fe brynon ni eu siâr nhw. Doedd dim profiad gyda fi o gwbl i redeg garej. Do’n i ddim yn dreifo car hyd yn oed. Dyma fi’n cael ‘dual test’ felly ar y bws o gwmpas Llambed. Boi o’r ministry oedd y tester ac ar ôl dod nôl fe ddywedodd e ‘There you are. You’re a bus driver now.’ A dyma fe’n troi at y mechanic oedd gyda fi yn y garej gan ddweud ‘ don’t let him go on his own for a week.’

Er mwyn darllen mwy, mynnwch gopi Mis Chwefror o Bapur Bro Clonc.