Cynhelir cystadleuaeth Cân i Gymru nos Wener, Mawrth 1af yn Abertawe a fe’i darlledir ar S4C.
Ond a wyddech chi am rai o’r cystadleuwyr a rhai o’r perfformwyr sydd â chysylltiadau lleol?
Mae Elin Hughes yn byw yng Nghwmann, ac yn dod o Lanybydder yn wreiddiol. Hi sy’n perfformio “Heno” gan Elfed Morgan Morris a Carys Owen. Caiff y gân hon ei chwarae ar raglenni Radio Cymru heddiw.
Dywedodd Elfed Morgan Morris,
“Dw i wir eisiau rhoi shout out anferth i Elin Hughes fydd yn perfformio’r gân. Mae ganddi lais anhygoel a dw i methu aros i chi weld ei pherfformiad nos Wener yma y 1af o Fawrth!”
Mae Gwion Phillips yn dod o Aberystwyth ac yn fyfyriwr yng Nghaerdydd. Ef yw ŵyr Elma Phillips o Gellan a’r diweddar Goronwy Phillips, cyn bennaeth Ysgol Coedmor a Llanybydder.
Mae Gwion wedi cyfansoddi cân wreiddiol sef “Cysgod Coed” gydag Efa Rowlands a bydd ef yn perfformio’r gân ei hunan yn fyw ar y rhaglen nos Wener.
Sara Davies, wedyn yw arweinydd Côr Pamlai yn Llanbed ac mae’n athrawes yn Ysgol Henry Richard. Mae’n byw ym Mhren-gwyn erbyn hyn. Defnyddia eiriau ei diweddar daid yn y gân “Ti”. Sara a gyfansoddodd yr alaw ei hunan a hi fydd yn perfformio’n fyw yn y gystadleuaeth nos Wener. Cafodd ei chân ei darlledu ar raglenni Radio Cymru ddydd Gwener.
Dyma restr lawn y caneuon:
Yr Un Fath gan Jacob Howells
Heno gan Elfed Morgan Morris a Carys Owen, Elin Hughes yn perfformio
Cysgod Coed gan Gwion Phillips ac Efa Rowlands, Gwion Phillips yn perfformio
Ti gan Sara Davies
Cymru yn y Cymylau gan Lowri Jones a Sion Emlyn Parry, Lowri Jones yn perfformio
Pethau yn Newid gan Sion Rickard
Mêl gan Owain Huw a Llewelyn Hopwood
Goleuni gan Steve Balsamo a Kirstie Roberts, Moli Edwards yn perfformio
Oes yna unrhyw gysylltiadau lleol gan unrhyw un arall o’r uchod?
Cynhelir Cân i Gymru yn Arena Abertawe gydag Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn cyflwyno, fel rhan o Ŵyl Croeso Abertawe. Bydd perfformiadau byw gan HMS Morris, Bronwen Lewis, Mared Williams, a’r 8 cân derfynol. Pwy fydd yn ennill y tlws a’r brif wobr o £5,000?
Bydd darllediad byw o’r gystadleuaeth ar S4C nos Wener am 8 o’r gloch.