Ymchwilio i dân ar Stryd y Farchnad, Llanbed

Mae’r digwyddiad yn cael ei drin fel un amheus ar hyn o bryd

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
6667D254-FAB0-4185-83C0-65372CC7200A

Mae swyddogion heddlu yn Llanbed yn ymchwilio i dân a ddigwyddodd ar Stryd y Farchnad, Llanbed, drws nesaf i’r llyfrgell, ar y 30ain o Fehefin, rhwng 7.40 a 7.50yh.

Cyhoeddodd Heddlu Dyfed Powys’

“Cafodd eitemau eu cynnau y tu mewn gan achosi difrod ac mae’r digwyddiad yn cael ei drin fel un amheus ar hyn o bryd.”

Mae’r heddlu yn apelio am unrhyw dystion posib, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth.

Os oes gennych unrhyw wybodaeth a fyddai’n ddefnyddiol gydag ymholiadau, cysylltwch â’r heddlu drwy wefan yr heddlu neu ffonio 101 gan roi rhif cyfeirnod 24*574878.