?♀️Mae Ysgol Bro Pedr wedi llwyddo i gerdded, rhedeg neu feicio 3,500 milltir!
?♀Cymerodd y criw ddeg diwrnod i gwblhau'r her, ac mae disgyblion Ysgol Lampter, Pennsylvania wedi gyrru eu llongyfarchion draw i Lanbed.@Clonc360https://t.co/VpUUGZTkXm
— ? Bro360 (@Bro__360) February 20, 2021
?️ Mae rhagolygon am law trwm dros de a chanolbarth Cymru o heddiw ymlaen tan ddydd Sul.
?️ Ydych chi mewn perygl o lifogydd? Edrychwch ar ein mapiau rhybuddio llifogydd ar ein gwefan.
? https://t.co/Oz4j8mXhha#Llifogydd pic.twitter.com/hKsQkUE0QN
— Cyfoeth Naturiol Cymru | Natural Resources Wales (@NatResWales) February 19, 2021
Rhybudd ambr am law a pherygl o lifogydd
Mae rhybudd ambr am law a pherygl o lifogydd wedi cael ei ryddhau gan y Swyddfa Dywydd ar gyfer Ceredigion.
Mae’r rhybudd ambr mewn grym o ddydd Gwener, 19 Chwefror 2021, hyd at ddydd Sadwrn, 20 Chwefror 2021.
Disgwylir glaw trwm a chyson a all arwain at rywfaint o lifogydd gan amharu ar drafnidiaeth a gwasanaethau.
Mae negeseuon byddwch yn barod am lifogydd ar gyfer Afonydd Ceredigion eisoes wedi’u cyhoeddi gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Mae’n debygol y bydd rhai o’r rhain, yn enwedig yng Nghanol a De’r Sir, yn cael eu cynyddu i Rybuddion Llifogydd gyda’r potensial i gael rhai Rhybuddion Llifogydd Difrifol.
Gallai hyn effeithio ar eiddo sy’n ffinio ag afonydd, yn ogystal â phontydd yn croesi’r afonydd a all olygu posibilrwydd o gau heolydd.
Ewch i wefan y Swyddfa Dywydd am ddiweddariadau am sefyllfa’r tywydd neu ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, i weld pa rybuddion sydd mewn grym.
"Dyma’n wir oedd yr adloniant bron canrif yn ôl.
"Dim rhyngrwyd, dim gwefan @Clonc360, dim snapchat, dim S4C na Netflix, ond beirdd gwlad fel B T Lewis yn ysgrifennu am ddigwyddiadau’r fro a thrigolion yr ardal yn awchus am ddiddanwch wrth eu darllen."https://t.co/6TuDxDdbu6
— ? Bro360 (@Bro__360) February 19, 2021
? Y Ffynnon – Chwefror 2021https://t.co/VFSLJCDjPH
— ? Bro360 (@Bro__360) February 18, 2021
Mis bach! Mae hynny'n golygu bod dyddiad cau derbyn deunydd rhifyn Mawrth Clonc yn agosáu yn gyflym!
Danfonwch eich newyddion, erthyglau a lluniau atom erbyn Dydd Llun 22ain Chwefror. Byddwn yn falch iawn o'u derbyn er mwyn ein cynorthwyo i gynhyrchu rhifyn difyr arall. #yagym— Papur Bro Clonc (@Cloncyn) February 17, 2021
45 mlynedd ers cychwyn ymgyrch gwrthgyffuriau Operation Julie
“Mae hi’n stori mor anhygoel, byddai neb wedi breuddwydio bod y fath beth wedi digwydd!"
Darllen rhagor50 o benillion am Gynhaeaf Gwair yn ardal y Ram
Cân a gyhoeddwyd yn 1925 yn ymddangos yn rhifyn Chwefror Papur Bro Clonc.
Darllen rhagorIe wir, golew i bob papur bro sydd wedi mentro i gyhoeddi ar-lein dros y flwyddyn diwethaf. Mae 'na bobol ar draws Cymru yn darllen ac yn gwerthfawrogi'r newyddion lleol ? https://t.co/UfxMKxb6hy
— ? Bro360 (@Bro__360) February 15, 2021
Her Llanbedr i Lampeter wedi ei chyflawni
Ysgol Bro Pedr yn gorffen yr her o gerdded, rhedeg a beicio 3,500 milltir.
Darllen rhagor