Cadeirydd Newydd i’r Ford Gron

gan Rob Phillips

Dyn o Los Angeles yw cadeirydd newydd Ford Gron Llanbedr Pont Steffan.

Mewn cinio nos Fawrth yng Nghegin Gareth Goedwig, daeth Dr Kyle Erickson, sydd yn bennaeth Adran y Clasuron ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn gadeirydd Ford Gron Llambed. Mae Kyle yn dod yn wreiddiol o Los Angeles yng Nghalifornia ond wedi bod yn dysgu yn Llambed ers sawl blwyddyn. Trosglwyddodd Nathan Jorgensen, y cyn gadeirydd, gadwyn y swydd i Kyle yn dilyn blwyddyn lwyddiannus. Yn ystod y flwyddyn cynhaliwyd noson Tân Gwyllt llawn bwrlwm, a Gŵyl Gwrw gyntaf y Ford Gron.

Y cadeirydd newydd, Kylre Erickson gyda'r gyn gadeirydd athan jorgenson a'r 2 aelod newydd, Ryan Jones a Paul Lewis
Y cadeirydd newydd, Kyle Erickson, gyda’r cyn gadeirydd Nathan Jorgenson a’r ddau aelod newydd, Ryan Jones a Paul Lewis

Yr is gadeirydd newydd yw Rob Phillips, cyn faer y dref. John McDonagh yw’r ysgrifennydd a Matt Cobb yw’r trysorydd. Llywydd am y flwyddyn i ddod yw Robert Jones, perchennog Canolfan Garddio Llambed.

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi profi llwyddiant hefyd o ran denu aelodau newydd; daeth Ryan Jones, swyddog gyda’r heddlu, a Paul Lewis sy’n rhedeg busnes bara yn lleol, yn aelodau newydd ar y noson. Mae dau ddarpar aelod arall gyda ni, ond rydym yn dal i chwilio am fwy o ddynion ifainc i ymuno. Cysylltwch â ni trwy’r wefan www.lampeterroundtable.org.uk