Carol, Cerdd a Chân

Delyth Morgans Phillips
gan Delyth Morgans Phillips

Am yr 28ain mlynedd, cynhaliwyd Carol, Cerdd a Chân – cyfuniad o gyngerdd ac oedfa Gristnogol – yn Eglwys San Pedr, Llanbedr Pont Steffan. Pwyllgor lleol Cymorth Cristnogol sy’n trefnu’r digwyddiad, ac eleni, mae’r elw yn mynd i helpu dau achos dybryd ar lawr ein daear, sef plant sy’n byw mewn tlodi enbyd yn Nigeria, ac argyfwng y ffoaduriaid yn Syria.

Parchg Andy Herrick

Croesawyd pawb gan y Parchg Andy Herrick, ficer newydd Llanbed – a dyma oedd ei orchwyl cyntaf oddi ar yr oedfa i’w sefydlu yn yr ystod yr wythnos aeth heibio. Creodd y naws a’r cywair priodol ar y dechrau’n deg, gan sicrhau bod y gyngerdd yn wasanaeth o fawl fyddai’n canolbwyntio ar holl bwrpas y Nadolig, sef dathlu geni Iesu yn Waredwr ac yn Arglwydd.

Ifan
Ifan

Fe ŵyr pawb sy’n arfer dod i’r Carol, Cerdd a Chân yn flynyddol fod yna farathon yn eu disgwyl – a doedd eleni ddim yn eithriad! Awr a thri-chwarter o adloniant a myfyrdodau gan Gôr Merched Corisma, Parti Llefaru Sarn Helen, Parti Gernant, disgyblion Ysgol Carreg Hirfaen ac Ysgol Bro Pedr, Aled Williams, Elin Williams, Lowri Elen, Natalie Plant, Elan a Beca, Ifan Meredith, Margaret Wilson a Deborah Angel.

Ysgol Carreg Hirfaen
Ysgol Carreg Hirfaen

Diolchodd Twynog Davies i’r unawdwyr, adroddwyr, deuawdwyr, partïon canu, partïon llefaru, cyfeilyddion a hyfforddwyr, yn ogystal â’r gynulleidfa, a ddaeth i gefnogi’r noson er budd Cymorth Cristnogol. Ategodd hefyd weddi John Morgan Howell yn ei garol:
“Yn y nef gogoniant,
Hedd i ddynol-ryw…”
– geiriau sydd, mae’n siŵr, yn crisialu gobaith holl Gristnogion led-led y byd y Nadolig hwn, a geiriau sy’n cadarnhau ethos a gwaith mudiad Cymorth Cristnogol.

Corisma
Corisma