Oedfa Eisteddfod Llanbed

Delyth Morgans Phillips
gan Delyth Morgans Phillips

Y Prifardd Mererid Hopwood, Caerfyrddin, oedd yn annerch yn Oedfa Eisteddfod Rhys Thomas James, Pantyfedwen, Llanbedr Pont Steffan eleni. Tro capel Shiloh oedd rhoi cartref i’r oedfa, ac fe’n croesawyd ni i gyd yn gynnes gan Twynog Davies. Twynog hefyd a gyflwynodd ac a groesawodd Mererid i’r pulpud.

2015-08-30 10.36.26Yn ôl ei chyfaddefiad ei hunan, doedd Mererid ddim am “bregethu” – ond yn sicr, fe gawsom ni anerchiad a’n gwnaeth ni i feddwl, ac a’n tywysodd at rai adnodau o’r Beibl. Cawsom hefyd air o brofiad ganddi, yn ogystal â her wrth fynd o’r cwrdd. (Onid yw’r cynhwysion hyn oll yn gwneud pregeth?!)

Roedd y goleuni yn thema amlwg yn yr oedfa. Dywedwyd ein bod ni i gyd yn holi cwestiynau ac yn chwilio am atebion. Rydym ni gyd yn y bôn yn chwilio am oleuni. Canolbwyntiodd Mererid ar rai o gerddi enwog Waldo, ac yn benodol ar y ddau air amlwg sy’n ei farddoniaeth – ‘cael’ ac ‘adnabod’. Geiriau sy’n anodd eu cyfieithu a’u cyfleu yn Saesneg. Plethodd y cerddi a’r darluniau sydd yng ngherddi Waldo â phrofiad y ddau ar y ffordd i Emaus a gyfarfu Iesu, ac a ddaeth i’w adnabod wrth dorri bara.

A’r her i gloi? O gael ac o adnabod, mae’n rhaid gweithredu. Allwn ni ddim bod yn segur! Ac fe’n dwysbigwyd i sylweddoli’r angen ar i ni adnabod eraill fel brodyr a chwiorydd i ni. O wneud hynny, byddai’n amhosib i ddyn ladd ei frawd.

Diolch i Mererid am ei didwylledd, am ei dawn i egluro cerddi dwfwn Waldo mewn ffordd mor syml a real, ac am rannu’i phrofiad â ni.